facebook-pixel

Tagine Cig Oen Cymru araf

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 600g ffiledau ysgwydd neu wddf Cig Oen Cymru PGI heb esgyrn, wedi eu tocio a’u torri’n giwbiau mawr
  • 2 winwnsyn, wedi eu plicio a’u torri’n dalpiau
  • 1 llwy fwrdd cwmin mâl
  • 1 llwy fwrdd sinamon mâl
  • 1 llwy de sinsir mâl
  • 1 llwy de coriander mâl
  • ½ llwy de pupur du
  • Tun 400g o ffacbys, wedi eu draenio a’u rinsio
  • 400ml stoc cig oen neu lysiau
  • 150ml sudd mango neu oren (neu debyg)
  • 50g bricyll sych, wedi eu torri
  • 50g datys heb gerrig, wedi eu torri
  • 1 lemon, sudd a chroen
  • 1 oren, sudd a chroen
  • 1 llwy fwrdd mêl
  • 250g couscous
  • Llond llaw o fintys, wedi ei dorri
  • Hadau pomgranad, i addurno
  • 1 llwy fwrdd tafelli almonau i addurno

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 170°C / 150°C ffan / Nwy 3.
  2. Rhowch y ciwbiau cig oen, y winwnsyn, y sbeisys, y ffacbys, y bricyll, y datys, y stoc, y mêl, y suddion a hanner y croen i mewn i ddysgl caserol. Gorchuddiwch y cyfan a’i goginio am ryw awr a hanner, tan fod y cig yn frau.
  3. Tynnwch y caead ac ychwanegu’r couscous. Rhowch yn ôl yn y ffwrn am ryw 25 munud tan bod yr hylif wedi cael ei amsugno. Efallai y bydd angen ychwanegu ychydig mwy o stoc os yw braidd yn sych.
  4. Cyn ei weini, cymysgwch y mintys i mewn ac addurnwch y cyfan gyda’r hadau pomgranad.

Awgrym: Gellir coginio’r tagine Cig Oen Cymru araf mewn padell â chaead dros wres isel ar hob, mewn popty araf neu mewn ffwrn.

Share This