facebook-pixel

Byrgyrs Cig Eidion Cymru wedi’u malu gyda winwns crensiog tenau

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 800g briwgig Cig Eidion Cymru PGI
  • Pupur a halen

Ar gyfer y saws byrgyr hawdd:

  • 4 llwy fwrdd mayonnaise
  • 2 lwy fwrdd sôs coch
  • 1 llwy de mwstard melyn
  • Pinsiad o bowdr garlleg

I’w roi at ei gilydd:

  • Letys crimp
  • 4 sleisen o domato mawr
  • Gercynnau wedi’u piclo a’u sleisio
  • 4 bynsen o’ch dewis
  • Menyn (i’w daenu ar y byns)
  • 4 sleisen o gaws Cheddar

Ar gyfer y winwns crensiog tenau:

  • 1 winwnsyn, wedi’i sleisio’n denau
  • 2 ŵy, wedi’u curo
  • 2 lwy fwrdd llaeth
  • Pinsiad o bowdr garlleg
  • Pupur a halen
  • 125g blawd plaen
  • Olew, i ffrio

Dull

  1. I baratoi’r patis, rhannwch y gymysgedd yn 8 belen gig gyfartal.
  2. Rhowch ddalen o bapur gwrthsaim ar hambwrdd a rhowch bob pelen gig ar y papur, gan eu fflatio â’ch llaw. Rhowch ddalen arall o bapur ar eu pen a’u fflatio â llaw neu sgrapiwr bwyd.
  3. Rhowch y patis yn yr oergell nes eich bod yn barod i goginio.
  4. Gwnewch y saws byrgyr trwy gymysgu’r cynhwysion gyda’i gilydd.
  5. Taenwch bob bynsen wedi’i haneru gyda menyn a’i rhoi ar radell boeth i’w lliwio.
  6. Paratowch y winwns crensiog. Mewn powlen fach, cymysgwch y blawd, pupur a halen a’r powdr garlleg. Mewn powlen arall, curwch yr ŵy a’r llaeth.
  7. Arllwyswch olew llysiau i badell ganolig, digon i fod yn 3cm o ddyfnder, a’i gynhesu nes bod yr olew’n boeth.
  8. Cymerwch lond llaw o’r winwns a’u taflu yn y gymysgedd ŵy, yna eu taflu yn y blawd ac yna eu rhoi yn yr olew poeth yn ofalus. Ffriwch nhw am ychydig funudau nes eu bod yn grimp ac yn euraidd. Draeniwch nhw ar bapur cegin ac ailadrodd nes bod yr holl winwnsyn wedi’i goginio.
  9. Tynnwch y patis allan o’r oergell a thynnwch yr haen uchaf o bapur i ffwrdd. Gyda chefn llwy neu’ch bawd, gwnewch dolc yng nghanol pob byrgyr (bydd hyn yn ei atal rhag chwyddo).
  10. Cynheswch badell neu blât radell a phan fydd hi’n boeth, rhowch y byrgyrs ar y radell a’u sesno’n dda.
  11. Coginiwch am ychydig funudau bob ochr, gan ddefnyddio sbatwla i wasgu i lawr ar y byrgyrs. Coginiwch nes eu bod wedi brownio’n braf.
  12. Rhowch dafell o gaws ar bob un o’r 4 pati, a phan mae wedi toddi, rhowch y patis eraill ar y top i greu pati dwbl.
  13. Paratowch y byrgyrs. Taenwch y saws byrgyr ar waelod y byns, ychwanegwch y letys, y tomatos a’r gercynnau, rhowch y patis ar y top ac yna llond llaw o’r winwns crensiog. Gorffennwch gyda chaead y byrgyr.
  14. Gweinwch gyda sglodion a cholslo crensiog.
Share This