facebook-pixel

Byrger iach Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

Y byrger:

  • 500g o Gig Eidion Cymru PGI heb ormod o fraster
  • 1 llwy bwdin o fwstard grawn cyflawn
  • Halen a phupur i roi blas
  • Olew i ffrio
  • 1 afocado wedi’i falu, gyda halen a phupur
  • 1 llond llaw o sbigoglys
  • 4 llwy fwrdd o gatwad winwns wedi’u carameleiddio

Ar gyfer y rôl tatws melys:

  • 400g o datws melys, wedi’u gratio’n fân
  • 2 ŵy canolig eu maint
  • 50g o flawd gwenith cyflawn
  • 2 llwy de o deim sych
  • Halen a phupur i roi blas
  • Olew i ffrio

Creision bresych deiliog:

  • Bresych deiliog (cêl), wedi’i olchi a’i dorri’n ddarnau, a thynnu’r coesynnau
  • 1 llwy fwrdd o halen garlleg
  • 1 llwy de o baprica
  • 1 llwy de o siwgr brown
  • 1 llwy fwrdd o olew

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1874 KJ
  • Calorïau: 445 kcals
  • Braster: 16 g
  • Sy’n dirlenwi: 4.6 g
  • Haearn: 4.0 mg
  • Sinc: 6.5 mg

Dull

  1. Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y tatws melys (ar wahân i’r olew) mewn powlen gymysgu fawr, a rhannu’r cyfan yn 8 pati. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio nad yw’n glynu, a ffrio’r patis am 3 munud ar bob ochr neu tan y byddan nhw’n frown.
  2. Cymysgwch gynhwysion y byrgers (ar wahân i’r olew) mewn powlen gymysgu, gan rannu’r cymysgedd yn 4 i greu siapiau byrgers mawr. Rhowch yr olew mewn padell ffrio nad yw’n glynu, a choginio’r byrgers cig eidion am 4-5 munud ar bob ochr, tan y byddan nhw wedi coginio drwyddo.
  3. Gosodwch y sbigoglys, yr afocado, y byrger cig eidion a’r winwns wedi’u carameleiddio ar bati tatws melys, a rhoi’r ail bati tatws melys ar y top.
  4. Yn y cyfamser, cymysgwch y bresych deiliog a’r holl gynhwysion eraill mewn powlen, cyn eu gwasgaru mewn tun pobi a’u rhoi mewn ffwrn sy’n boeth yn barod ar wres o 200°C/ 180°C ffan / Nwy 5 am tua 3 munud tan y byddan nhw’n grimp. Gweinwch nhw gyda’r byrger cig eidion.
Share This