facebook-pixel

Bakso Indonesaidd The Curry Guy wedi’i wneud gyda Chig Oen Cymru

  • Amser paratoi 40 mun
  • Amser coginio 3 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

Ar gyfer y stoc:

  • 1.5kg esgyrn Cig Oen Cymru PGI
  • 2.5l dŵr
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n chwarteri
  • 4 shibwnsyn, wedi’u torri’n fras
  • 5cm sinsir, wedi’i dorri’n gylchoedd a’i falu’n ysgafn
  • 4 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 goeden anis
  • 2.5cm ffon sinamon
  • Pupur gwyn a halen, at eich dant

Ar gyfer y peli cig:

  • 500g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 75g blawd corn neu tapioca
  • 4 ewin garlleg, wedi’u malu a’u minsio
  • 1 llwy de halen
  • ½ llwy de pupur gwyn mâl
  • ½ llwy de powdr pobi

I weini:

  • 225g vermicelli reis
  • Egin ffa
  • Pak choi
  • Tsilis coch
  • Sialóts wedi’u ffrio
  • Kecap manis
  • Sambal tsili

Dull

Gyda ddiolch i The Curry Guy am y rysait. Gallwch ddarllen y blog sy’n gysylltiedig gyda’r rysait yma.

 

  1. Dechreuwch trwy baratoi stoc y bakso. Rhowch yr esgyrn cig oen mewn sosban fawr a’u gorchuddio â dŵr. Dewch â’r cyfan i ferwi a’i fudferwi am 10 munud. Gwnewch yn siŵr eich bod yn sgimio unrhyw ewyn ac amhureddau eraill sy’n codi i’r brig, yna arllwyswch yr esgyrn i golandr mawr, gan daflu’r dŵr i ffwrdd.
  2. Golchwch yr esgyrn yn drylwyr, gan dynnu unrhyw weddillion gwaed ac ati a welwch ar yr esgyrn. Dychwelwch yr esgyrn i’r sosban a’u gorchuddio â 2.5 litr o ddŵr. Dewch â’r cyfan i fudferwi a pharhau i sgimio os oes angen. Ychwanegwch y winwnsyn, y shibwns, y sinsir, y garlleg, y goeden anis a’r sinamon. Gorchuddiwch a mudferwch dros wres canolig am o leiaf 3 awr.
  3. Tra bod y stoc yn mudferwi, paratowch y peli cig. Rhowch y briwgig cig oen mewn prosesydd bwyd a’i gymysgu’n bast trwchus. Ychwanegwch weddill y cynhwysion peli cig a pharhau i gymysgu nes eu bod wedi’u cyfuno’n drylwyr.
  4. Rhowch bowlen o ddŵr iâ ger y cymysgedd cig. Gwlychwch eich dwylo gyda’r dŵr oer a chydio mewn llond llaw bach o’r cig. Gwasgwch y cig rhwng eich bawd a’ch mynegfys nes bod gennych bêl maint pêl golff a’i thorri i ffwrdd. Trochwch eich dwylo yn ôl yn y dŵr a rholiwch y bêl gig hon yn eich dwylo nes ei bod yn llyfn ac yn grwn. Ailadroddwch gyda gweddill y cig a’i roi ar blât yn yr oergell nes bod y stoc yn barod.
  5. Pan fydd y stoc yn barod, hidlwch ef a thaflu popeth i ffwrdd, heblaw’r stoc, wrth gwrs. Golchwch y badell gyda dŵr ac arllwyswch y stoc yn ôl iddo. Dewch ag ef i fudferwi a’i sesno gyda halen a phupur gwyn at eich dant. Ychwanegwch y peli cig wedi’u paratoi.
  6. Bydd y peli cig yn suddo i’r gwaelod ac yna’n codi i’r brig ac yn arnofio ar ôl eu coginio. Os ydych chi’n ychwanegu pak choi, mudferwch hwnnw yn y stoc hefyd, ond nid yw hyn yn hanfodol gan y bydd yn coginio, beth bynnag, yn y cawl poeth.
  7. I weini, rhowch y vermicelli reis mewn powlen a’u gorchuddio â dŵr poeth. Gadewch i socian yn y dŵr am tua deng munud neu yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn. Hidlwch.
  8. Rhannwch y vermicelli reis rhwng 4 a 6 powlen. Rhowch y peli cig wedi’u coginio ym mhob powlen a’u gorchuddio â’r cawl poeth.
  9. Ychwanegwch bethau ychwanegol at eich dant. Taenwch y bakso gyda kecap manis a sambal tsili. Mae sialóts wedi’u ffrio yn gweithio’n dda hefyd.
Share This