facebook-pixel

Picanha Cig Eidion Cymru gyda chimichurri Asiaidd gan Hang Fire

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 3

Bydd angen

  • 1.2 – 1.5kg ffolen cap / picanha (darn siâp triongl) Cig Eidion Cymru PGI
  • Talp o fenyn heb halen
  • Ambell sbrigyn o deim ffres
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • Llond llaw o tsili gwyrdd bach ffres
  • 3 llwy fwrdd o hadau sesame, wedi’u tostio

Ar gyfer y chimichurri Asiaidd:

  • 1 llwy de garlleg, wedi’i falu neu ei ratio’n fân
  • 1 llwy de gwraidd sinsir ffres, wedi’i ratio’n fân
  • 2 lwy fwrdd saws pygod (nam pla)
  • 1 ½ llwy fwrdd finegr reis du
  • 2 lwy fwrdd saws soi
  • 1 llwy fwrdd olew sesame
  • 1 ½ llwy fwrdd olew tsili
  • 1 llwy fwrdd o tsili crensiog neu tsili sych
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • Llond llaw o bersli ffres, wedi’i dorri
  • Llond llaw o goriander ffres, wedi’i dorri

Ar gyfer sesnin grilio Hang Fire:

  • 1 llwy fwrdd grawn pupur pinc
  • ½ llwy de grawn pupur gwyn
  • ½ llwy de hadau ffenigl
  • Pinsiad o halen môr mwg

Dull

 

Mae’r rysáit hon yn dangos i chi sut i goginio stecen picanha gyfan mewn dwy ffordd – arddull Brasil ac fel stecen ffiled.

 

  1. Rhowch y ffolen gydag ochr y braster yn wynebu i lawr ar fwrdd torri neu arwyneb gwaith glân a, gan ddefnyddio cyllell fach, tynnwch y croen arian tenau/pilen yn ofalus o wyneb y cig. Tra bo’r cig ar y bwrdd gydag ochr y braster yn wynebu i lawr, defnyddiwch gyllell fwy i’w dorri’n stêcs trwchus (ar hyd graen y cig). Wrth i’r ffolen gulhau i’r pen, mae’n mynd yn deneuach gyda llai o gig. Gellir tocio holl fraster y darnau olaf hyn a’u trin fel stecen ffiled (gweler y dull coginio yng ngham 6).
  2. I wneud y chimichurri, cyfunwch y cynhwysion yn dda mewn powlen fach, a’u cymysgu’n drylwyr a’i rhoi o’r neilltu.
  3. I wneud y sgiwerau picanha Brasilaidd, cymerwch stecen a’i phlygu mewn siâp cilgant, y cap braster ar y tu allan, rhoi’r sgiwer yn ofalus drwy’r braster yn gyntaf, yna drwy’r cig ac allan yr ochr arall.  Ailadroddwch gydag ail stecen. Gallwch wneud hyn gyda’r picanha gyfan os dymunwch. Gan ddefnyddio’r un dull, cymerwch sgiwer hir arall a’i roi yn y stêcs ochr yn ochr â’r sgiwer cyntaf. Sesnwch y stêcs gyda halen ar y ddwy ochr.
  4. Cynheswch y plât poeth (neu Chappa) ar yr hob nes ei fod yn boeth iawn a choginio’r stêcs am ychydig funudau ar bob ochr (2-3 munud ar bob ochr ar gyfer cig cymedrol/gwaedlyd). Ar ôl eu coginio at eich dant, tynnwch y stêcs oddi ar y plât poeth a’u gadael i orffwys mewn lle cynnes.
  5. Tra bo’r cig yn gorffwys a’r plât poeth dal yn boeth, ychwanegwch y tsilis gwyrdd at y plât poeth a’u coginio nes bod eu crwyn yn dechrau pothellu. Rhowch nhw o’r neilltu tan eich bod yn barod i weini.
  6. I wneud stêcs fel ffiled, cynheswch badell haearn bwrw nes ei bod yn boeth iawn a choginio’r stêcs gyda thalp mawr o fenyn, y garlleg wedi’i falu a dail teim ffres am ychydig funudau ar bob ochr (2-3 munud ar bob ochr ar gyfer cig cymedrol/gwaedlyd). Ar ôl eu coginio at eich dant, tynnwch y stêcs allan o’r badell a’u gadael i orffwys mewn lle cynnes.
  7. Ar gyfer y sesnin grilio Hang Fire, malwch y grawn pupur pinc, grawn pupur gwyn a hadau ffenigl mewn pestl a mortar.
  8. Pan fydd y stecs wedi gorffwys am o leiaf 10 munud, sleisiwch at eich dant, gan sicrhau ei fod yn erbyn graen y cig, a’i sesno gyda’r sesnin grilio.  I gyflwyno’r stecen, arllwyswch y chimichurri Asiaidd ar blat mawr a rhoi’r darnau o stecen drosto. Gwasgarwch y tsilis ac ysgeintiwch yr hadau sesame wedi’u tostio ar ben y cyfan. Gweinwch gyda reis wedi’i stemio.
Share This