Prynu’n lleol. Meddwl yn fyd-eang.
Er eu bod nhw’n flasus iawn, mae cymaint mwy i Gig Eidion Cymru na byrgyrs, stêcs a chinio dydd Sul – mae mor hyblyg! Darganfyddwch flasau newydd o bedwar ban y byd ar eich antur goginio gyda’n detholiad gwych o fwyd y byd. Chewch chi mo’ch siomi, mae hynny’n sicr.
Blasu’r byd o’ch cartref
Asiaidd
Mae Asia yn gyfandir enfawr, ac mae’n cynnig ystod eang o fwydydd. Awn ni ar daith trwy ddiwylliannau a bwyd o ryseitiau Dwyrain Asia fel pryd tro-ffio cig eidion tanbaid, cig eidion creisionllyd Tsieineaidd a chyri katsu cig eidion campus i is-gyfandir India lle rydym ni’n eich helpu i roi tro ar glasuron cyri cig eidion o rysáit madras cig eidion hyfryd i rendang cig eidion rhagorol.
Madras Cig Eidion Cymru
Asen Cig Eidion Cymru wedi ei rostio’n araf gyda sglein soi a thatws melys wedi ffrio gan Ludovic Dieumegard
Katsu Cig Eidion Cymru
Llygad yr asen o Gig Eidion Cymru gyda nwdls a kecap manis gan Hywel Griffith
Rendang Cig Eidion Cymru
Tsili crenshlyd Cig Eidion Cymru
Salad Asiaidd Cig Eidion Cymru a nwdls
Pad Thai Cig Eidion Cymru
Ffrengig
Gyda chanrifoedd o ddylanwadau coginio o bob cwr o’r byd, mae prydau bwyd Ffrengig modern yn gyfystyr â bwyd moethus a chogyddion o’r radd flaenaf. Dyma gartref nouvelle cuisine, mudiad sy’n canolbwyntio ar brydau ysgafnach, mwy ffres, ac mae gan Ffrainc lawer o fwydydd rhanbarthol traddodiadol hefyd. Rhowch gynnig ar glasuron fel steak au poivre neu ein rysáit bourguignon cig eidion – sydd lawn cystal mewn pastai llawn sbarion! – neu syniadau newydd fel ein goujons cig eidion.
Stêc Cig Eidion Cymru “au poivre” gan Bryan Webb
Bourguignon Cig Eidion Cymru
Pastai sbarion Cig Eidion Cymru bourguignon
Darnau o Gig Eidion Cymru mewn quinoa crensiog, gyda dipiau
Asennau byrion Cig Eidion Cymru mewn gwin coch a pherlysiau
Chasseur Stêc Cig Eidion Cymru
Eidalaidd
Mae bwyd Eidalaidd yn adnabyddus ledled y byd, ac mae’n canolbwyntio ar gynhwysion o safon a wneir yn dda felly beth well na’n Cig Eidion Cymru ni? Gyda phrydau clasurol, adnabyddus fel lasagne cig eidion, calzone a pizzas cig eidion, dyma fwyd da ar ei orau.
Lasagne Cig Eidion Cymru
Pizzas bychain Cig Eidion Cymru
Calzone Cig Eidion Cymru
Cawl pasta bolognese Cig Eidion Cymru
Baguette peli Cig Eidion Cymru
America Ladin
O tortillas cig eidion i tacos cig eidion, chimichurri i tsili cig eidion, mae bwyd America Ladin yn gweddu i bob chwaeth. Ychwanegwch rywbeth arbennig at eich bwydlen wythnosol gyda phastai enchilada neu beth am greu cinio dydd Sul amgen gyda burrito pwdin Swydd Efrog – gwych neu gwarthus, chi bia’r dewis!
Pastai enchilada brisged wedi ei rwygo Cig Eidion Cymru
Stecen sbawd frith (featherblade) Cig Eidion Cymru gyda chimichurri
Burrito Cig Eidion Cymru a phwdin Efrog
Tortillas blawd pob gyda briwgig Cig Eidion Cymru sbeislyd
Enchiladas Cig Eidion Cymru
Plât rhannu barbacoa Cig Eidion Cymru
Tsili Cig Eidion Cymru gyda thaten felys bob a salsa tomato
Gogledd America
Mwynhewch flasau Gogledd America gyda’n ryseitiau cig eidion barbeciw a gril blasus. Cig eidion wedi’i goginio’n araf yn llawn dop o flas, felly am ginio dydd Sul llawn steil neu ddanteithion i’w bwyta wrth wylio gêm bwysig, dywedwch “yeehaw” i’r prydau hyn!
Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf
Brisged Cig Eidion Cymru araf mewn saws cyfoethog a sticlyd
Sglodion brisged Cig Eidion Cymru llawn dop
Macaroni a chaws gyda Chig Eidion Cymru wedi’i dynnu
Byrgyr Cig Eidion Cymru gyda llysiau cudd
Byrger iach Cig Eidion Cymru
Byrgyrs Cig Eidion Cymru wedi’u malu gyda winwns crensiog tenau
Darnau llosg brisged Cig Eidion Cymru
Gweddill y byd
Mae’n fyd mawr! Er nad ydyn nhw’n ffitio i mewn i rai o’r categorïau uchod, allwn ni ddim anwybyddu’r danteithion hyn. Mae ein pryd koftas cig eidion yn deyrnged i fwyd Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol, gyda’r llysiau cudd yn berffaith i gadw’r bwytawyr mwyaf ffyslyd yn hapus, tra bod ein stroganoff cig eidion hawdd yn bryd cynnes perffaith â gwreiddiau Rwsiaidd.
Koftas Cig Eidion Cymru gyda llysiau cudd
Stroganoff Cig Eidion Cymru
Kofta bach Cig Eidion Cymru a bysedd gwrach
Goulash Cig Eidion Cymru
Deg awgrym ar gyfer eich antur goginio fyd-eang
Mae Cig Eidion Cymru mor hyblyg, ond bydd deall cyfansoddiad cig yn eich helpu i ddewis y dull gorau o goginio ar gyfer darn penodol. Mae cig sydd wedi’i aeddfedu am gyfnod hirach yn tueddu i fod yn dywyll ac yn gadarn ac mae’n llawn blas. Gall lliw y cig neu’r braster amrywio, ond nid yw hyn yn effeithio ar ansawdd y blas. Mae Cig Eidion Cymru ar gael yn helaeth mewn siopau cigyddion, siopau fferm ac archfarchnadoedd. I baratoi, coginio a mwynhau Cig Eidion Cymru ar ei orau, dilynwch ein hawgrymiadau:
Sicrhewch fod y cig ar dymheredd yr ystafell cyn ei goginio gan y bydd yn coginio'n fwy cytbwys yr holl ffordd drwyddo. Bydd hefyd yn coginio'n gyflymach ac yn colli llai o leithder, gan ei gadw'n frau ac yn suddlon.
Dewiswch ddarnau sy'n gweddu orau i'r pryd dan sylw. Mae darnau sydd ar yr asgwrn yn dargludo gwres ac yn ychwanegu blas, tra bydd gan ddarnau heb esgyrn haen o fraster dros yr wyneb fel arfer, a fydd yn toddi i ychwanegu blas a chadw'r darn yn suddlon.
Os ydych yn rhostio darn o gig eidion neu’n ffrio / grilio stecen, gorffwyswch y cig cyn ei weini gan ei fod yn caniatáu i ffibrau’r cig ymlacio a'r sudd i ddosbarthu'n gyfartal fel bod y cig yn suddlon ac yn frau.
Mae cynnwys brithder braster uchel fel arfer yn dangos bod y braster wedi’i ddosbarthu'n gyfartal drwy'r cig ac yn ychwanegu mwy o flas.
Paratowch eich marinâd ymlaen llaw, yn enwedig gyda darn mwy caled, gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Bydd marinadu cig eidion am oriau neu fwy yn ei dyneru ac yn rhoi mwy o flas iddo.
Mae olew di-flas a niwtral fel olew blodyn haul, llysiau a hadau rêp yn gweithio'n dda wrth ffrio cig eidion ac mae'n ddoeth rhoi olew ar y cig cyn ei goginio.
Sesnwch cyn coginio – os ydych yn ychwanegu halen, coginiwch ar unwaith gan y gall dynnu lleithder o'r cig allan, gan ei wneud yn galetach. Fodd bynnag, mae'n well gan lawer hefyd sesno eu stêcs ar ôl coginio.
Mae darnau brau o gig eidion yn fwy addas ar gyfer coginio cyflym e.e. stecen ffiled, syrlwyn, ffolen, llygad yr asen, sbawd frith ac ati.
Ar gyfer dulliau coginio araf defnyddiwch ddarnau fel cig eidion i’w frwysio, coes las, bochau, cynffon ych a brisged.
Defnyddiwch thermomedr cig os ydych eisiau gwirio'n gywir a yw'r cig wedi'i goginio at eich dant.
Hang Fire Southern Kitchen
Dechreuodd Samantha Evans a Shauna Guinn Hang Fire Southern Kitchen fel stondin fwyd stryd barbeciw mewn arddull De UDA yng Nghaerdydd. Bellach wedi’i leoli yn y Barri, mae’r bwyty’n dibynnu’n llwyr ar gynnyrch ffres, moesegol ac mae’n cynnig clasuron bwyd Louisiana gan ddefnyddio gril Parrilla yr Ariannin a adeiladwyd yn arbennig iddyn nhw. Dyw cynnyrch o safon ddim yn ddieithr iddyn nhw (edrychwch ar eu rysáit Tagine Cig Oen Cymru) ac mae’n hen bryd i Gig Eidion Cymru gael ei goginio ar y gril!
Gwyliwch Samantha a Shauna yn coginio stecen Picañha a sawsiau a chonfennau gwych fel chimichurri, chermoula a harissa coch i fynd gyda hi.
Daw Picañha o ran frau iawn y ffolen a dyma’r cig a ffefrir ar gyfer ‘churrasco’ Brasilaidd – cig eidion wedi’i grilio. Mae’r darn yn dod yn fwyfwy poblogaidd mewn siopau cigyddion ac archfarchnadoedd, felly gellir ei fwynhau gartref yn eich churrascaria eich hun!
Y 10 cynhwysyn gorau gyda chig eidion
Gall Cig Eidion Cymru serennu mewn amrywiaeth o brydau a bwydydd. Beth am fod yn greadigol gyda pherlysiau a sbeisys, confennau, sawsiau a llysiau! Dyma ambell beth sy’n gweddu’n berffaith i Gig Eidion Cymru. Mae llawer mwy ar gael, felly byddwch yn greadigol!