facebook-pixel

Shawarma Cig Oen Cymru Gareth Ward

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • ½ coes Cig Oen Cymru PGI heb esgyrn, neu 8 stêc coes (os ydych chi’n defnyddio stêcs coes, bydd rhain yn cymryd llai o amser i goginio – tua 10 munud – neu coginiwch nhw nes bod y tymheredd craidd yn cyrraedd tua 68˚C.)

Ar gyfer y marinâd:

  • 150g cwmin mâl
  • 150g coriander mâl
  • 150g sinamon mâl
  • 25g sinsir mâl
  • 25g paprica mwg
  • 25g halen môr
  • 50g siwgr mân
  • 25g tyrmerig mâl
  • 50g pupur y Caribî
  • 150g powdr garlleg
  • 150g powdr winwns
  • 150g sumac
  • 50g cardamom du, wedi’i falu mewn cymysgydd
  • 2.5l olew olewydd ifanc iawn

Ar gyfer y mayonnaise mintys:

  • 300g mayonnaise neu iogwrt trwchus
  • 150g saws mintys o’r siop
  • 100g siwgr mân (os yn defnyddio iogwrt yn hytrach na mayonnaise)

Ar gyfer y bresych coch picl:

  • 1 fresychen fawr goch, heb y canol
  • 300ml finegr gwin gwyn neu finegr gwin reis
  • 50g halen môr
  • 100g siwgr mân

Ar gyfer y dresin tahini:

  • 1 x jar 300g tahini rhost ysgafn
  • 200ml dŵr poeth
  • 75ml sudd lemon
  • 1 llwy de neu 1 ewin garlleg mawr, wedi’i friwo/gratio
  • ¾ llwy de halen môr
  • Melyswch gyda mirin neu defnyddiwch siwgr at eich dant (cofiwch flasu wrth ychwanegu)

Ar gyfer yr halen sumac (malwch y cynhwysion gyda’i gilydd mewn pestl a mortar):

  • 300g sumac
  • 15g halen

I weini:

  • 1 letysen grensiog, Iceberg neu debyg

Ar gyfer y bara croyw (dewisol):

  • 1kg blawd bara
  • 30g halen
  • 580ml dŵr potel
  • 30g siwgr mân
  • 14g burum
  • Blawd semolina mân i ysgeintio dros yr arwyneb gweithio (dewisol)

Dull

Efallai fod faint o farinâd sydd yma yn ymddangos yn llawer, ond mae’n caniatáu ichi orchuddio’rr oen yn llawn. Gallwch hefyd wneud eich bara croyw eich hun i gyd-fynd â’r rysáit hon (gweler rysáit bara croyw isod). Paratowch y cig oen a’r marinâd y diwrnod cyn rydych chi’n bwriadu coginio’r cig oen.

 

I farinadu’r cig oen:

 

  1. Tynerwch y cig oen trwy bricio’r cig yn unig, naill ai gyda thynerwr neu fforc. (Bydd hyn yn helpu’r marinâd i socian i mewn i’r cig.)
  2. Mewn powlen fawr, cymysgwch yr holl gynhwysion sych ar gyfer y marinâd yn ysgafn. Ychwanegwch yr olew olewydd yn raddol at y cynhwysion sych, a’i gymysgu gyda’i gilydd nes fod ei drwch fel tywod gwlyb. Rhowch o’r neilltu. Awgrym: i gael mwy fyth o flas, gwnewch y marinâd y diwrnod cyn i chi roi’r cig oen ynddo.
  3. Pan fydd y marinâd yn barod, rhowch y darnau o gig oen yn y bowlen, gan symud y cig o gwmpas i sicrhau bod pob darn yn cael ei foddi’n llwyr yn y marinâd. Gorchuddiwch â cling ffilm a’i roi yn yr oergell i farinadu dros nos.

I goginio’r cig oen a gwneud y garneisiau (y diwrnod canlynol):

 

  1. Cynheswch y popty i 120˚C / 100˚C ffan / Nwy ½.
  2. Pan mae’r cig oen wedi marinadu, tynnwch goes cig oen allan o’r marinâd, a gyda’ch bysedd, crafwch gymaint o’r marinâd oddi ar y cig oen ag y gallwch. (Cadwch y marinâd i’w ddefnyddio ar gyfer cigoedd eraill – cadwch ef wedi’i rewi nes bod ei angen.) Rhowch y cig oen ar hambwrdd popty a rhowch 4 sgiwer ynddo. Mae hyn yn gwneud y cig oen yn haws ei drin wrth goginio.
  3. Dros lo poeth barbeciw, golosgwch y cig oen drosto. Os nad oes gennych farbeciw, defnyddiwch radell yn lle, ond mae’r blas yn well dros lo poeth.
  4. Pan mae’r cig oen wedi’i olosgi, rhowch ef mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am ryw 45 munud (mae hyn ar gyfer cig canolig, lle dylai tymheredd craidd y cig fod tua 68˚C). Fel arall, coginiwch ef at eich dant, gan addasu’r amseriadau yn unol â hynny.
  5. Tra bod y cig oen yn coginio, dechreuwch ar y garneisiau.
  6. I wneud y mayonnaise mintys, cymysgwch y mayonnaise gyda’r saws mintys mewn powlen. Os ydych chi’n defnyddio iogwrt yn lle mayonnaise, cynhwyswch y siwgr wrth gymysgu.
  7. Tynnwch y dail chwerw, allanol oddi ar y letys, a rhwygo’r canol creisiog. Rhowch mewn dysgl weini.
  8. I wneud y bresych coch picl, rhwygwch y fresychen a’i rhoi mewn powlen. Mewn powlen ar wahân, cymysgwch y finegr gyda’r siwgr a gadael iddo doddi nes ei fod yn glir. Arllwyswch y gymysgedd finegr a siwgr dros y fresychen a’i gymysgu’n dda. Gadewch am o leiaf 30 munud cyn ei weini. Awgrym: i gael blas dwysach, gwnewch ef y diwrnod cynt.
  9. Gwiriwch y cig oen: dylai fod yn barod pan fydd yn gadarn i’w gyffwrdd a’i dymheredd craidd yn 68˚C (ar gyfer cig canolig). Rhowch o’r neilltu i orffwys am ryw 10-15 munud, gan ei adael yn yr hambwrdd popty.
  10. Tra bod y cig oen yn gorffwys, gwnewch y dresin tahini. Mewn powlen, chwisgiwch y past tahini, garlleg wedi’i friwo/gratio, halen a sudd lemon gyda’i gilydd. Ychwanegwch y mirin a’i gymysgu nes fod y dresin yn drwchus. Ychwanegwch y dŵr yn raddol i lacio’r gymysgedd nes ei fod yn cwympo’n hawdd oddi ar y chwisg, gan ymdebygu i mayonnaise rhydd neu hummus. Addaswch faint o ddŵr yn ôl eich trwch dewisol. Arllwyswch i mewn i bowlen weini.
  11. Ar ôl i’r cig oen orffwys am 10-15 munud, gwthiwch y cig oen o amgylch yr hambwrdd fel ei fod yn casglu’r holl fraster dros ben. I gael crimprwydd ychwanegol ac i ailgynhesu’r cig oen, golosgwch yr oen drosto ar y barbeciw am ychydig eiliadau.
  12. Tynnwch y sgiwerau allan o’r cig oen a gyda chyllell finiog, cerfiwch y cig oen yn dafelli 1cm o drwch. Sesnwch bob tafell ar y ddwy ochr â halen sumac (gweler y cynhwysion).
  13. Gweinwch y cig oen gyda’r garneisiau, y letys creisiog wedi’i rwygo a’r bara croyw.

I wneud bara croyw:

 

Gwnewch y toes y diwrnod cyn eich bod chi’n bwriadu ei coginio. (Digon i 6-8 bara croyw)

 

  1. Cynheswch y dŵr mewn powlen neu jwg a chymysgu’r siwgr a’r burum i mewn iddo.
  2. Mewn powlen fawr, ychwanegwch y blawd a’r halen, a gwnewch bant yn y canol. Arllwyswch y gymysgedd dŵr cynnes i mewn i’r pant. Gan ddefnyddio fforc, cymysgwch y blawd gyda’r dŵr nes bod toes yn dod at ei gilydd.
  3. Trowch y toes allan ar arwyneb gwaith glân â blawd a, gyda dwylo â blawd arnyn nhw, tylinwch y toes am 10 – 15 munud. Dychwelwch y toes i’r bowlen, ei orchuddio â cling ffilm a’i roi yn yr oergell i brofi dros nos.
  4. Y diwrnod canlynol, tynnwch y toes allan o’r oergell a’i daro’n ôl (dylai fod wedi dyblu mewn maint dros nos).
  5. Ar ôl i chi ei daro’n ôl, rhannwch y toes yn beli o’r un maint – 300g y belen.
  6. Trowch y peli’n rholiau gan ddefnyddio blawd semolina mân iawn. Profwch nhw ar arwyneb gwaith nes eu bod wedi dyblu mewn maint. Dylai crwst ffurfio ar y tu allan.
  7. Pan fyddwch chi’n barod i’w defnyddio, trowch nhw drosodd fel bod y crwst ar y gwaelod. Rholiwch nhw allan i drwch o 2.5mm. Gadewch nhw am 15-20 munud fel eu bod nhw’n profi ychydig yn fwy.
  8. Coginiwch y bara croyw un ar y tro mewn padell boeth am 60 eiliad ar bob ochr, gan eu troi’n aml fel nad ydyn nhw’n llosgi.
Share This