facebook-pixel

Rag Cig Oen Cymru a mintys Gareth Ward

  • Amser paratoi 35 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1 x cefnddryll (gyda’r asgwrn) neu 2-3 rag Cig Oen Cymru PGI, heb ei docio (neu os yw’n well gennych, gofynnwch i’ch cigydd eu tocio)
  • Halen môr
  • Ambell ddeilen fintys ffres

Ar gyfer y finegr mintys:

  • 825ml finegr gwin gwyn
  • 400g siwgr mân
  • Bwnsiad mawr o fintys ffres
  • 14g agar agar

Ar gyfer yr olew winwns:

  • 300g winwns bach, wedi’u torri
  • 300g cennin syfi, wedi’u torri
  • 1.2l olew blodau haul

Ar gyfer y dresin cig oen:

  • 400ml saws soi (o ansawdd da)
  • 25ml sake
  • 100g siwgr
  • Tocion cig oen (o’r darn o gig oen)

Ar gyfer y llysiau:

  • 2 bwnsiad o asbaragws ffres, heb y coesau caled, prenaidd
  • 400g Tatws Cynnar Sir Benfro PGI
  • 1 pecyn o fenyn
  • Ambell ddeilen fintys ffres

Ar gyfer y saws mintys:

  • Finegr mintys (gweler y dull)
  • Bloc o finegr mintys wedi caledu (gweler y dull)

Ar gyfer y winwnsyn gwyn picl:

  • 1 winwnsyn gwyn, y canol yn unig
  • 1 llwy fwrdd olew winwns (gweler y dull)

Dull

Gellir defnyddio ffiledi lwyn heb esgyrn ar gyfer y rysáit hon hefyd, fodd bynnag, bydd yr amseroedd coginio yn fyrrach, yn dibynnu ar eu maint. Fel canllaw, coginiwch ffiledau lwyn am 10-15 munud neu nes bod y tymheredd craidd yn cyrraedd tua 68˚C.

Paratowch y finegr mintys a’r olew winwns o leiaf 2 awr 30 munud cyn coginio’r cig oen er mwyn gadael iddo galedu a rhewi.

 

Finegr mintys (i’w ddefnyddio ar gyfer y saws mintys a’r winwnsyn gwyn picl):

 

  1. Dewch â’r finegr gwin gwyn a’r siwgr i’r berw mewn padell, ychwanegwch y bwnsiad mawr o fintys ffres a gadewch iddo sefyll/mwydo am 5 munud (fel y byddech chi’n gwneud te), yna tynnwch y mintys allan o’r badell.
  2. Arllwyswch hanner y gymysgedd finegr i mewn i bowlen a’i roi o’r neilltu, gan gadw 1-2 llwy de ar gyfer y winwnsyn gwyn picl.
  3. Ychwanegwch yr agar agar at y finegr sydd ar ôl yn y badell a dod ag ef i’r berw, gan ei chwisgo’n gyson.
  4. Arllwyswch y gymysgedd finegr/agar agar i gynhwysydd a’i roi yn yr oergell am ryw 2 awr nes ei fod wedi caledu.

 

Olew winwns (i’w ddefnyddio ar gyfer y winwnsyn gwyn picl):

 

  1. Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn cymysgydd trydan.
  2. Pasiwch y gymysgedd olew trwy gadach mwslin dros bowlen/jwg gwrth-rewgell.
  3. Rhowch y bowlen/jwg o olew yn y rhewgell a’i adael i rewi nes bod yr olew winwns wedi gwahanu o’r dŵr winwns wedi’i rewi.
  4. Tynnwch yr olew winwns allan o’r dŵr winwns wedi’i rewi. (Gallwch chi daflu’r dŵr winwns wedi’i rewi nawr).
  5. Cadwch lwy fwrdd o’r olew winwns ar gyfer y winwnsyn gwyn picl. Gallwch chi storio’r olew sy’n weddill yn y rhewgell i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

 

I goginio’r cig oen:

 

  1. Paratowch y cig oen: Os yw’ch cig oen heb ei docio, tociwch unrhyw gig a braster oddi ar yr esgyrn (gwyliwch y fideo rysáit i gael arweiniad neu gofynnwch i’ch cigydd wneud hyn ar eich rhan). Cadwch y tocion. Yna gan ddefnyddio cyllell finiog, tynnwch y croen oddi ar y cig oen, gan adael yr haen gwyraidd o fraster. Crafwch y braster mewn patrwm cris-croes. Ysgeintiwch halen môr ar hyd y cig oen, gan ei rwbio i mewn i’r braster sydd wedi’i grafu.
  2. I wneud y dresin cig oen, rhowch y saws soi, sake a siwgr mewn sosban a’i gymysgu’n dda. Torrwch y tocion cig oen a’u hychwanegu at y sosban, a gadewch i’r cyfan goginio’n ysgafn ar yr hob dros wres isel iawn am ryw 30 munud.
  3. Cynheswch y popty i 120˚C / 100˚C ffan / Nwy ½.
  4. Yn y cyfamser, rhowch y cig oen mewn padell ffrio dros wres canolig. Browniwch y cig oen, gyda’r ochr â braster yn wynebu i lawr yn gyntaf, gan roi ychydig o bwysau arno nes ei fod yn frown euraidd. Yna seriwch ddau ben yr oen.
  5. Rhowch y cig oen mewn hambwrdd popty a’i goginio yn y popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 30-40 munud (mae’r amseriadau hyn ar gyfer cig canolig, lle dylai tymheredd craidd yr oen fod tua 68˚C). Gallwch chi addasu’r amseriad i sut rydych chi’n hoffi i’ch cig oen gael ei goginio.
  6. Unwaith y bydd y cig oen yn barod, tynnwch ef allan o’r popty a gadewch iddo orffwys mewn lle cynnes.
  7. Yn y cyfamser, coginiwch y llysiau a chasglu’r garneisiau.
  8. Rhowch yr asbaragws a’r Tatws Cynnar Sir Benfro mewn stemar a’u coginio dros ddŵr hallt. Coginiwch y tatws am 10-15 munud neu nes eu bod yn dyner, a’r asbaragws am 3-5 munud neu nes eu bod yn dyner.
  9. Tra bod y llysiau’n coginio, gwnewch y saws mintys. Trowch y finegr mintys wedi caledu allan ar fwrdd torri a’i dorri’n giwbiau, yna ei ychwanegu at gymysgydd trydan. Ychwanegwch y finegr mintys sy’n weddill a’i gymysgu nes ei fod yn llyfn ac yn sgleiniog. Pasiwch y gymysgedd trwy ridyll mân dros bowlen a’i roi o’r neilltu.
  10. Ar gyfer y garnais winwnsyn gwyn picl, sleisiwch ganol y winwnsyn yn gylchoedd tenau (tua 2mm o drwch). Trefnwch y cylchoedd o winwns ar blât a chwistrellwch neu eu codi â llwy gyda’r 1-2 llwy de o’r finegr mintys rydych chi wedi’i gadw. Gadewch iddo sefyll am gwpl o funudau, yna brwsiwch yr olew winwns dros ben y cylchoedd o winwns. Rhowch o’r neilltu i farinadu.
  11. Ar ôl i’r llysiau goginio, gweinwch nhw mewn dysglau ochr ar wahân a rhoi menyn ar eu pennau. Torrwch y dail mintys ffres yn fân a’u hysgeintio dros y tatws. Cadwch yn gynnes.
  12. Dylai’r cig oen nawr fod wedi gorffwys yn dda. Tynnwch ef allan o’r hambwrdd popty, a gan ddefnyddio cyllell finiog, torrwch y cig i ffwrdd oddi ar yr esgyrn mewn un darn. Dychwelwch y cig oen heb esgyrn i’r hambwrdd a’i symud o gwmpas fel ei fod yn casglu’r holl fraster dros ben o’r hambwrdd.
  13. Mewn padell ffrio ganolig/poeth, ailgynheswch y cig oen ar bob ochr – bydd hyn yn ei adfywio ac yn ychwanegu rhywfaint o grimprwydd.
  14. Mae’r cig oen nawr yn barod i’w gerfio. Tociwch unrhyw fraster ychwanegol i ffwrdd a cherfiwch y cig, ar dipyn o groeslin, i dafelli 1cm o drwch. Sesnwch gyda halen môr.
  15. Trefnwch y cig oen ar blatiau cinio. Rhowch y sleisys o winwns picl ar ben y cig oen, a thaenwch weddill y marinâd dros y winwnsyn a’r cig oen, ac yna un llwy fwrdd o’r saws mintys. Ysgeintiwch fintys ffres wedi’i dorri’n fân a’i orffen gyda’r dresin cig oen drosto.
  16. Gweinwch gyda’r prydau ochr asbaragws wedi’i stemio a menyn a Thatws Cynnar Sir Benfro.
Share This