facebook-pixel

Golwyth Cig Oen Cymru Milanese gyda pesto berwr, tomatos rhost a thatws sautée gan Francesco Mazzei

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 2 rag Cig Oen Cymru PGI, 6 asgwrn yr un
  • 20 tomato bach
  • 20 taten Ratte
  • 500g briwsion bara
  • 4 wy cyfan
  • 100ml llaeth cyflawn
  • 30g caws Grana Padano
  • 20g blawd plaen
  • 200ml olew coginio
  • 80g menyn
  • 20ml olew olewydd ifanc iawn

Ar gyfer y pesto berwr:

  • 400g berwr
  • 80ml olew olewydd ifanc iawn
  • 20g caws pecorino, wedi’i ratio
  • 20g caws Grana Padano, wedi’i ratio
  • ½ ewin garlleg
  • Halen

Dull

  1. Blansiwch y tomatos mewn dŵr berwedig a’u hoeri mewn dŵr rhew. Pliciwch nhw a’u gadael ar yr ochr ar gyfer wedyn.
  2. Berwch y tatws nes eu bod yn feddal yn y canol ond yn dal yn gadarn, draeniwch nhw, a’u gadael i oeri’n llwyr, yna sleisiwch nhw’n dafelli 1cm a’u rhoi o’r neilltu.
  3. Tynnwch y braster dros ben oddi ar y rag cig oen a’i dorri rhwng pob asgwrn i gael 6 golwyth/cytled o bob rag. Fflatiwch y cig nes ei fod yn ½ cm o drwch.
  4. Mewn powlen, cymysgwch yr wyau cyfan a’r caws, ychwanegwch y blawd ac arllwyswch y llaeth i mewn yn araf. Sesnwch gyda halen a phupur.
  5. Trochwch bob golwyth yn y cymysgedd wy gan adael yr asgwrn yn lân, gadewch i’r cymysgedd dros ben ddraenio cyn rhoi’r golwyth yn y briwsion bara, gan wneud yn siŵr ei fod wedi’i orchuddio’n dda ar y ddwy ochr. Trochwch un ochr yn unig o’r golwyth yn y cymysgedd wyau ac eto i mewn i’r briwsion bara. Gydag ymyl ddi-fin cyllell, gwnewch y marciau rhomboid traddodiadol ar ochr y golwythion sydd wedi’u trochi ddwywaith.
  6. Mewn dŵr hallt, berw, blansiwch hanner y berwr a’i oeri mewn dŵr rhew. Draeniwch ef a’i drosglwyddo i gymysgydd. Ychwanegwch weddill y berwr a gweddill y cynhwysion a’u cymysgu nes eu bod wedi’u cyfuno’n dda.
  7. Cynheswch badell ffrio gyda’r olew coginio a dechreuwch ffrio’r golwythion ar yr ochr sydd wedi’i marcio yn gyntaf. Pan fyddan nhw’n frown euraidd, trowch nhw drosodd, ychwanegwch hanner y menyn a pharhau i’w coginio nes eu bod yr un lliw ar y ddwy ochr. Draeniwch ar bapur cegin.
  8. Yn y cyfamser, mewn padell, cynheswch weddill y menyn, ychwanegwch y tatws wedi’u sleisio, sesnwch gyda halen a ffriwch, gan eu troi’n achlysurol, nes eu bod yn grensiog ac yn euraidd.
  9. Cynheswch gril y popty ymlaen llaw i 200˚C / Ffan 180˚C / Nwy 6. Sesnwch y tomatos gydag olew olewydd, halen a phupur, trosglwyddwch nhw i hambwrdd pobi a’u coginio o dan y gril nes eu bod wedi rhostio ychydig.
  10. Rhowch y golwyth mewn dysgl weini, ychwanegwch y tatws wedi’u ffrio a’r tomatos rhost wrth ei ymyl. Cwblhewch gyda llwyaid o pesto ar ben pob golwyth.
Share This