facebook-pixel

Pasta cavatelli a ragout Cig Oen Cymru gyda pecorino, ‘nduja a mintys gan Francesco Mazzei

  • Amser paratoi 1 awr
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 700g briwgig Cig Oen Cymru PGI
  • 100g seleri
  • 100g moron
  • 100g winwns
  • 50g past tomato
  • 2 sbrigyn o rosmari
  • 2 ewin garlleg
  • 50g selsig ‘nduja
  • 2L stoc cyw iâr
  • 150g caws Pecorino Romano PDO wedi’i gratio
  • 10 deilen mintys

Ar gyfer y cavatelli

  • 500g blawd semolina
  • 220g dŵr poeth

Dull

  1. Torrwch y winwns, y seleri, y moron, y garlleg a’r rhosmari a’u chwysu mewn padell sauté gydag ychydig o olew olewydd.
  2. Yn y cyfamser, ffriwch y briwgig cig oen gydag ychydig o olew olewydd ar wahân. Pan fydd wedi’i goginio, draeniwch y braster a throsglwyddwch y cig oen i’r badell gyda’r llysiau.
  3. Ychwanegwch y ‘nduja i’r gymysgedd llysiau a chig oen, sesnwch gyda halen a’i ffrio am ychydig funudau.
  4. Arllwyswch y gwin i mewn a gadewch iddo anweddu. Cymysgwch y past tomato i mewn, arllwyswch y stoc cyw iâr i mewn a gadewch iddo fudferwi nes bod y stoc bron â thewychu’n llwyr. Ychwanegwch halen a phupur os oes angen.
  5. I wneud y pasta, rhowch y blawd semolina mewn powlen ac arllwys y dŵr poeth drosto. Dechreuwch gymysgu â sbatwla neu lwy bren ac yna ei drosglwyddo i wyneb gweithio a’i dylino â llaw nes ei fod yn llyfn. Gorchuddiwch â cling ffilm a’i adael i orffwys am ryw hanner awr.
  6. Ar ôl iddo orffwys, torrwch y toes yn wyth darn a rholiwch bob darn i faint bys bach. Torrwch y bysedd yn ddarnau 2-3cm o hyd a, gan ddefnyddio blaenau eich bysedd, rholiwch bob darn i siâp gnocchi. Gadewch iddyn nhw sychu am ryw 30 munud.
  7. Dewch â sosban o ddŵr hallt i’r berw. Coginiwch y pasta ffres am ryw 4 munud, ei ddraenio a’i sesno gyda’r gymysgedd ragout. Gorffennwch gyda mintys wedi’i dorri a chaws wedi’i gratio.
Share This