facebook-pixel

Blas o’r bywyd braf diolch i Gig Oen Cymru PGI

Meh 21, 2019

Mae tymor y gwyliau wedi hen ddechrau, a bydd nifer ohonon ni’n heidio i ddigwyddiadau ledled y wlad yn gobeithio am brofiad bythgofiadwy – ac am dywydd braf!

Nod The Good Life Experience ym Mhenarlâg yn y gogledd-ddwyrain yw creu antur gwirioneddol unigryw, felly mae’n cynnig rhaglen wahanol i wyliau eraill ac yn gymysgedd eclectig o adloniant sy’n cynnwys taflu bwyelli, abseilio a cherdded tân, yn ogystal ag arlwy mwy traddodiadol fel cerddoriaeth o’r radd flaenaf, sgyrsiau a bwyd a diod blasus.

Mae bwyd da wedi bod yn rhan enfawr o’r ŵyl erioed ac nid yw digwyddiad eleni’n eithriad gan bod yr amserlen yn llawn i’r ymylon gyda chyfoeth o bobl ddylanwadol o’r byd bwyd a diod.

Ac i helpu dathlu’r ffaith y bydd ein Llysgennad Cig Oen egnïol ni, Chris Roberts, yn cynnal gwledd unigryw ar y nos Sadwrn, pan fydd yn llawn bwrlwm fel arfer ac yn coginio Cig Oen Cymru hyfryd yn ei asado enwog yn arddull Patagonia, rydyn ni’n cynnig y wobr anhygoel hon i un enillydd lwcus:

  • 2 docyn oedolyn ar gyfer y penwythnos i The Good Life Experience 2019 (dydd Gwener i ddydd Sul)
  • 2 docyn Gwledd Nos Sadwrn, sy’n cael ei chynnal gan Chris Roberts
  • Llety mewn pabell gynfas foethus 4-person

Am y cyfle i ennill y profiad bythgofiadwy hwn, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr e-bost Teulu Cig Oen Cymru PGI misol, am ddim, cyn 11 Awst 2019. Mae’r cylchlythyr yn llawn o’r newyddion diweddaraf a ryseitiau i dynnu dŵr o’r dannedd, mae’n berffaith i’r rhai sy’n mwynhau bwyd blasus ac eisiau creu argraff yn y gegin – felly does dim esgus i beidio â rhoi cynnig ar ein cystadleuaeth, nag oes?

I’r rhai ohonoch chi sydd eisoes yn aelodau gwerthfawr o’n teulu ni – peidiwch â phoeni! Cadwch lygad am ddolen arbennig yn ein cylchlythyron yn y dyfodol agos, fydd yn rhoi cyfle i chithau ennill y wobr wych hon.

Felly peidiwch ag oedi – cofrestrwch fan hyn am y cyfle i ennill: Cystadleuaeth The Good Life Experience

Telerau ac amodau’r gystadleuaeth yma

Share This