facebook-pixel

Cytledi Cig Oen Cymru gyda saws garlleg a pherlysiau

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 4-6 cytled Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 winwnsyn coch bychan, wedi’i sleisio
  • 100g caws hufennog
  • 6 llwy fwrdd llaeth
  • 2 lwy fwrdd persli a basil ffres, wedi’u torri

Ar gyfer y sglodion trwchus:

  • 2 daten bobi fawr, wedi’u torri’n sglodion mawr
  • Olew i goginio’r sglodion

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 4395 KJ
  • Calorïau: 1057 kcals
  • Braster: 78 g
  • Sy’n dirlenwi: 33.9 g
  • Halen: 0.7 g
  • Haearn: 3.1 mg

Dull

  1. Twymwch y popty ymlaen llaw i 190ºC / 170˚C ffan / Nwy 5.
  2. Twymwch yr olew mewn padell ffrio wrthglud fawr, ychwanegwch y cytledi cig oen, y garlleg a’r winwnsyn a’u coginio nes eu bod yn euraidd ar bob ochr.
  3. Pan fydd y cytledi wedi brownio, trowch y gwres yn is a choginio’n ysgafn am 4-5 munud arall. Cofiwch gadw caead ar y badell – os yw’r winwns yn dechrau coginio gormod tynnwch nhw oddi ar y gwres a’u cadw’n gynnes.
  4. Tynnwch y cytledi o’r badell ar ôl iddyn nhw goginio a chadwch nhw’n gynnes.
  5. Yna ychwanegwch y caws hufennog a’r llaeth i’r badell a’u cymysgu gyda sudd y cig. Twymwch y cyfan yn ysgafn ac ychwanegwch y basil a’r persli.
  6. I wneud y sglodion mawr, torrwch y tatws a’u rhoi ar hambwrdd pobi gydag ychydig o olew a’u coginio am 30-40 munud neu nes eu bod yn grensiog ac euraidd.
  7. Gweinwch y cytledi gyda’r sglodion mawr a llysiau tymhorol gydag ychydig o’r saws hufennog drostyn nhw.
Share This