facebook-pixel

Cig Oen Cymru PGI a Waitrose & Partners

cyfuniad campus

Nid yw’r cynhwysion perffaith ar gyfer rysáit Cig Oen Cymru byth ymhell o’ch cyrraedd, felly i’ch helpu chi rydyn ni’n cydweithio gyda Waitrose & Partners, ac yn cynnig pedair taleb gwerth £250 yr un i’w gwario yn y siop.

Amser hyn o’r flwyddyn yw uchafbwynt tymor Cig Oen Cymru, pan fo ein cig ar ei orau a’i fwyaf helaeth, felly wrth iddi ddechrau tywyllu’n gynt, eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch flas unigryw Cig Oen Cymru PGI, blas na ellir ei efelychu yn unman arall yn y byd.

P’un a ydych yn cynllunio cinio dydd Sul heb ei ail, stêc ganol wythnos neu rywbeth ychydig yn fwy egsotig, mae hyblygrwydd anhygoel Cig Oen Cymru yn golygu ei fod yn addas ar gyfer amrywiaeth o brydau blasus, ac mae nifer fawr i’w gweld yn ein hadran ryseitiau.

Share This