Yn syml, stêc ‘sblennydd
Nid oes y fath beth ag ‘yr un stêc i bawb’.
Mae stêc yn hynod hyblyg, yn ddefnyddiol iawn i’w chael yn eich repertoire coginio, ac yn union fel ffrog fach ddu, gallwch ei gwisgo i fyny neu i lawr i weddu i’r achlysur. Mae’n ffordd wych o fod yn greadigol yn y gegin, ond cofiwch – pan mae’n dda mae’n dda a phan mae’n wael gall fod mor galed â gwadn esgid!
Darllenwch ambell awgrym a syniad am stêcs Cig Eidion Cymru gwych…
Sut ydych chi’n hoffi’ch un chi?
Gwaedlyd, canolig-gwaedlyd, wedi’i choginio’n dda neu rywbeth yn y canol? Mae’r ffordd y caiff stêc ei choginio bron bob amser yn destun anghytuno. Tra bod rhai yn ffeiddio at y syniad o stêc waedlyd sydd ‘bron yn cerdded oddi ar y plât’, gall eraill synnu at stêc sydd wedi’i choginio’n dda a bron â’i llosgi.
Pa un ydych chi?
Stêcs syfrdanol o suddlon
Sleisen o gig eidion yw stêc yn y bôn, ond mae llawer o fathau ar gael yn dibynnu o ba doriad o gig eidion y daw. Mae gan bob stêc nodweddion amrywiol y mae angen eu hystyried wrth goginio ar gyfer y canlyniadau gorau. Edrychwch ar y mathau mwyaf poblogaidd o stêc isod a’n hawgrymiadau o ryseitiau.
Ffiled
Wedi’i thorri o waelod y cefn, ble mae’r cyhyr prin yn cael ei ddefnyddio, nid oes gan y stêc hon lawer o fraster ac ychydig iawn o frithder sydd iddi. Er gwaethaf ei thynerwch hynod feddal (a’i phris!) nid yw mor flasus â darnau eraill o stêc.
Ffiled Cig Eidion Cymru tonnau a’r tir gan Gareth Ward
Stêc Cig Eidion Cymru “au poivre” gan Bryan Webb
Syrlwyn
Mae gan y stêc hon, sydd wedi’i thorri rhwng yr asennau a’r ffolen, haen dda o frithder. Stêc sy’n llawn blas cig eidion ac yn dal yn dyner os caiff ei gorffwys yn ddigonol.
Stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru gydag asbaragws, madarch, winwns a garlleg gwyllt gan Bryn Williams
Stêcs syrlwyn Cig Eidion Cymru wedi eu ffrio gyda thomatos bach y winwydden wedi eu rhostio, sglodion polenta, berwr a Parmesan gan Stephen Terry
Wagyu Cig Eidion Cymru, tomatos, mayonnaise mefus gwyrdd a siarcol Stephen Stevens
Chasseur Stêc Cig Eidion Cymru
Ffolen
Stêc sydd heb lawer o fraster o gwbl, wedi’i thorri o’r pen ôl, ond nid yw mor dyner â thoriadau eraill. Mae’n well ei marinadu cyn ei choginio.
Picanha Cig Eidion Cymru gyda chimichurri Asiaidd gan Hang Fire
Sbawd frith
Wedi’i thorri o’r ysgwydd, mae gan y stecen hon fraster brith da drwyddi draw. Mae’n dda ei choginio’n waedlyd i ganolig-gwaedlyd ac mae’n stêc ardderchog i’w grilio ar y barbeciw.
Stecen sbawd frith (featherblade) Cig Eidion Cymru gyda chimichurri
Llygad yr asen
Gyda digon o frithder, mae’r stêc hon yn cael ei thorri o’r asennau ac mae’n flasus iawn. Stêc tomahawk yw’r enw ar lygad yr asen ag asgwrn ynddi.
Stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru gyda madarch a chaws pob gan Matt Waldron
Llygad yr asen o Gig Eidion Cymru gyda nwdls a kecap manis gan Hywel Griffith
Hyfryd o hyblyg
Er bod stêc a sglodion yn bryd poblogaidd, oeddech chi’n gwybod y gallwch chi weini stêc mewn ffyrdd cyffrous eraill? Rhowch gynnig ar ein ryseitiau isod i roi tro yng nghynffon y stêc draddodiadol.
Katsu Cig Eidion Cymru
Stroganoff Cig Eidion Cymru
Darnau o Gig Eidion Cymru mewn quinoa crensiog, gyda dipiau
Salad Cig Eidion Cymru
Tsili crenshlyd Cig Eidion Cymru
Salad Asiaidd Cig Eidion Cymru a nwdls
Pad Thai Cig Eidion Cymru
Mae newid yn lles…
Mae mwy i stêcs na chig eidion. Ydych chi wedi rhoi cynnig ar stêcs Cig Oen Cymru? Mae’r stêcs suddlon a blasus hyn, o’r goes neu’r ffolen, yn hynod o hyblyg a blasus. Er mwyn trio rhywbeth newydd, rhowch gynnig ar y ryseitiau gwych hyn.
Perffeithrwydd mewn padell
Stêc coes Cig Oen Cymru Thai gyda salad tomato a sinsir
Stêcs coes Cig Oen Cymru gyda chimichurri mintys
Cig Oen Cymru wedi’i ffrio mewn padell gyda salad ffa llydan, betys a ffeta
Ffyrdd eraill i goginio stêcs Cig Oen Cymru…
Pizza Cig Oen Cymru a phesto gyda ffeta
Cig Oen Cymru gyda sinsir a shibwns wedi’i dro-ffrio
Tsili melys Cig Oen Cymru
Cig Oen Cymru tanllyd y ddraig wedi’i dro-ffrio
Cebabs Cig Oen Cymru gyda phinafal, soi a tsili, gyda salad nwdls a llysiau’r gwanwyn
Risotto Cig Oen Cymru, berwr y dŵr a parmesan
Salad poeth llawn lles Cig Oen Cymru
Parseli tortilla tikka Cig Oen Cymru
Shawarma Cig Oen Cymru Gareth Ward
Cebabs Cig Oen Cymru gyda couscous ffeta a llysiau’r haf wedi’u golosgi
Peidiwch â gwneud mis-stêcs gyda’n hawgrymiadau syml
I gael y canlyniadau gorau, ffriwch neu griliwch stêcs. Weithiau, gellir gorffen coginio stêcs yn y popty hefyd.
I'w gwneud yn iachach, gweinwch heb lawer o fraster gyda salad gwyrdd a thatws wedi'u berwi
Tynnwch y stêc allan o'r oergell 30-60 munud cyn ei choginio
Mae angen sesno dwy ochr y stêc
Os ydych chi'n ei ffrio, gwnewch yn siŵr bod y sosban yn boeth cyn coginio'r stêc
Defnyddiwch ychydig o olew yn y badell
Os oes haen o fraster gweladwy ar y stêc, toddwch ef yn y badell
Ychwanegwch ychydig o flas i'r badell gyda garlleg wedi'i falu, oregano neu rosmari ffres
Gorffwyswch y stêc am hanner ei hamser coginio cyn ei gweini
Mêts y stêc
Y cyfeiliant perffaith i unrhyw bryd stêc.
Saws pupur
Chimichurri
Saws madarch
Salsa Verde
Saws caws glas