facebook-pixel

Pasanda Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 650g ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n giwbiau (gallwch chi ddefnyddio ffiledau gwddf)

Ar gyfer y marinâd:

  • 1 x 4cm darn sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 tsili gwyrdd, wedi’i torri’n fân
  • 2 lwy fwrdd garam masala
  • 1 llwy fwrdd tyrmerig
  • 2 lwy de cwmin mâl
  • 2 lwy de coriander mâl
  • 1 llwy de powdr tsili mwyn
  • 150g iogwrt Groegaidd naturiol

Ar gyfer y saws cyrri:

  • 2 lwy fwrdd olew
  • 2 winwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
  • Sesnin
  • 6 coden cardamom
  • 2 ffon sinamon
  • 1 tun llaeth cnau coco
  • 1 llwy fwrdd purée tomato
  • 80g almonau mâl
  • 200ml stoc cyw iâr
  • 150g dail sbigoglys neu cêl wedi’i dorri

I weini:

  • Reis wedi’i goginio neu naan Peshwari
  • Haenau almon wedi’u tostio
  • Coriander wedi’i dorri

Dull

  1. Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y marinâd, ychwanegwch y ciwbiau cig oen a chymysgwch yn dda. Gorchuddiwch a gadewch yn yr oergell am o leiaf 2 awr (gallwch ei adael dros nos).
  2. Cynheswch yr olew mewn padell neu ddysgl gaserol ac ychwanegwch y winwns a’r sesnin, a’u ffrio’n ysgafn am 10 munud i feddalu.
  3. Ychwanegwch y ffyn sinamon, malwch y codennau cardamom yn ysgafn a’u hychwanegu at y sosban, eu ffrio am 1 munud yna ychwanegu’r cymysgedd cig oen a’i ffrio am 5 munud, gan gynyddu’r gwres nes bod y cig oen wedi brownio.
  4. Ychwanegwch y purée tomato, almonau mâl, llaeth cnau coco a’r stoc. Cymysgwch yn dda a dod ag ef i’r berw, ei fudferwi’n ysgafn, gan ychwanegu ychydig o ddŵr os oes angen. Coginiwch nes bod y cig oen yn frau (tua 2 awr).
  5. Ychydig cyn ei weini, tynnwch y ffyn sinamon a’r codennau cardamom allan ac ychwanegwch y llysiau gwyrdd ac ychydig o goriander wedi’i dorri. Cymysgwch y cyfan a gadewch iddo sefyll am 5 munud.
  6. Gweinwch gyda reis ac ysgeintiwch goriander a haenau almon drosto.
Share This