facebook-pixel

Jalfrezi Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 1 awr 45 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 650g ciwbiau Cig Oen Cymru PGI (ysgwydd neu wddf heb esgyrn)

I orchuddio’r cig oen:

  • 1 llwy de cwmin mâl
  • 1 llwy de coriander mâl
  • 1 llwy de tyrmerig
  • 1 llwy de garam masala

Ar gyfer y saws cyri:

  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 llwy fwrdd ghee
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i sleisio
  • 3 tsili gwyrdd, heb hadau
  • 2 lwy de sinsir, wedi’i ratio
  • 4 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy fwrdd garam masala
  • 1 llwy fwrdd tyrmerig
  • 1 llwy fwrdd cwmin mâl
  • 1 llwy fwrdd coriander mâl
  • ½ llwy de halen
  • 1 llwy de siwgr
  • 1 x tun 400g tomatos wedi’u torri
  • 1 llwy fwrdd purée tomato
  • 300ml stoc cig oen neu lysiau
  • 1 llwy fwrdd blawd corn i dewychu (os oes angen)
  • Llysiau i orffen y cyri:
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 pupur coch, wedi’i sleisio
  • 1 pupur gwyrdd, wedi’i sleisio
  • 1 winwnsyn, wedi’i sleisio
  • Llond llaw o domatos bach, wedi’u haneru, neu 2 domato, wedi’u chwarteru

I orffen:

  • Iogwrt naturiol
  • Coriander ffres, wedi’i dorri

Dull

  1. Cymysgwch y cwmin mâl, coriander mâl, tyrmerig a garam masala mewn powlen ac ychwanegwch y ciwbiau cig oen. Cymysgwch yn dda i orchuddio’r ciwbiau cig oen a rhowch gaead arnyn nhw. Rhowch nhw yn yr oergell am o leiaf 30 munud.
  2. Cynheswch yr olew a’r ghee mewn padell, a ffrio’r ciwbiau cig oen mewn dau swp nes eu bod yn frown. Tynnwch y ciwbiau cig oen allan o’r badell.
  3. Yn yr un badell, ychwanegwch y winwnsyn, y tsilis, y garlleg a’r sinsir a’u ffrio am 2 funud nes eu bod wedi brownio’n ysgafn.
  4. Dros wres isel, ychwanegwch yr holl sbeisys, halen a siwgr a’u troi am ychydig funudau.
  5. Ychwanegwch y tomatos tun, stoc a purée, eu troi’n dda ac ychwanegu’r ciwbiau cig oen a dod â nhw i’r berw.
  6. Rhowch gaead ar y badell a’i fudferwi am ryw awr a hanner, neu nes bod y cig oen yn frau.
  7. Ddeng munud cyn gweini, ffriwch y pupurau a’r winwnsyn yn yr olew’n gyflym nes eu bod wedi’u golosgi’n ysgafn, yna ychwanegwch y tomatos a’u coginio am ychydig funudau. Cymysgwch y cyfan i mewn i’r cyri ychydig cyn ei weini. Tewychwch os oes angen trwy gymysgu’r blawd corn gydag ychydig o ddŵr a’i ychwanegu at y cyri.
  8. Gweinwch gyda thalp o iogwrt naturiol, coriander wedi’i dorri a reis.
Share This