facebook-pixel

Stiw cynffon ych Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 3 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 2 gynffon ych Cig Eidion Cymru PGI, wedi eu torri’n ddarnau (fel hyn mae cynffon ych yn cael ei gwerthu fel arfer, neu gofynnwch i’ch cigydd ei thorri i chi)
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Pupur a halen
  • 2 winwnsyn, wedi eu torri
  • Gwraidd sinsir (darn 3cm), wedi ei ratio
  • 1 tsili coch, heb yr hadau ac wedi ei dorri’n fân
  • ¼ llwy de haenau tsili
  • 4 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
  • Bouquet garni (wedi ei wneud drwy glymu sbrigynnau ffres o rosmari, teim a dail bae gyda’i gilydd)
  • 1 llwy de paprica
  • 200ml passata
  • 3 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
  • 400ml stoc cig eidion
  • 1 llwy fwrdd gronynnau grefi cig eidion
  • Tun 400g o ffa cannellini, wedi eu draenio a’u rinsio
  • Dail teim, i addurno

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 150˚C / 130˚C ffan / Nwy 2.
  2. Ffriwch y gynffon ych yn yr olew tan ei bod yn frown drosti. Tynnwch hi allan o’r badell, ei rhoi mewn dysgl caserol a’i hysgeintio â phupur a halen.
  3. Gan ddefnyddio’r un badell, ffriwch y winwns, y garlleg, y sinsir, y tsili coch a’r haenau tsili am funud neu ddau i’w meddalu.
  4. Ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill, heblaw am y gronynnau grefi a’r ffa cannellini, a’u harllwys dros y gynffon ych. Gorchuddiwch gyda chaead neu ffoil a choginio am 2 awr. Yna ychwanegwch y ffa cannellini a rhoi’r cyfan yn ôl yn y ffwrn am ryw awr arall tan bod y cig yn frau ac yn cwympo oddi ar yr asgwrn.
  5. Cyn ei weini, gallwch dewychu’r hylif, os hoffech, drwy ychwanegu’r gronynnau grefi a’u cymysgu.
  6. Gweinwch gyda thatws stwnsh a dail teim drosto.
Share This