facebook-pixel

Cig Oen Cymru tanllyd y ddraig wedi’i dro-ffrio

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o stêcs coes neu lwyn Cig Oen Cymru PGI, wedi’u torri’n stribedi
  • Halen a phupur
  • 2 lwy fwrdd o olew hadau sesame, wedi’u crasu
  • Bwnsiad o sibols, wedi’u sleisio’n denau
  • 2 lwy de o sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 3 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
  • 240ml o stoc cyw-iâr neu lysiau
  • 50g o siwgr brown tywyll meddal
  • 2 lwy fwrdd o saws soi
  • 2 lwy fwrdd o flawd corn
  • 2 lwy de o finegr gwin reis
  • ½ llwy de o naddion tsili
  • 1 pupur coch, wedi’i sleisio’n denau
  • 2 pak choi, wedi’u sleisio’n denau
  • 1 tsili coch wedi’i sleisio, heb yr hadau
  • 50g o gnau daear wedi’u rhostio, wedi’u torri
  • Bwnsiad bach o goriander, wedi’i dorri’n fras
  • 1 leim, croen a sudd
  • 400g o reis jasmine, wedi’i goginio mewn tun o laeth coconyt

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 3155 KJ
  • Calorïau: 747 kcals
  • Braster: 22.1 g
  • Sy’n dirlenwi: 6.3 g
  • Halen: 2.59 g
  • Haearn: 3.7 mg
  • Sinc: 6.4 mg
  • Protein: 35 g
  • Ffeibr: 3.3 g
  • Carbohydradau: 109.8 g
  • Sy’n siwgro: 22.2 g

Dull

  1. Coginiwch y reis mewn tun o laeth coconyt ac ychydig o ddŵr os oes angen.
  2. Cynheswch wok neu badell ffrio.
  3. Rhowch halen a phupur ar y stribedi o gig oen. Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew i’r badell a, phan fydd yn boeth, ychwanegwch y stribedi cig oen a’u brownio ar wres uchel. Tynnwch y cig o’r badell gyda llwy dyllog a’i roi o’r neilltu mewn powlen.
  4. Ychwanegwch y sibols, y sinsir a’r garlleg i’r badell. Coginiwch gan eu troi am ychydig funudau.
  5. Mewn powlen, cymysgwch y stoc, y siwgr, y saws soi, y blawd corn, y finegr a’r naddion tsili. Arllwyswch y gymysgedd i’r badell a chodwch i’r berw. Trowch y gwres i lawr a mudferwch am 2 funud, yna ychwanegwch y cig oen.
  6. Mewn padell arall, ffrïwch y pupur coch a’r pak choi yn yr olew sy’n weddill am 2 funud.
  7. Gweinwch ar unwaith ar blât mawr. Codwch y reis ar y plât â llwy yna’r gymysgedd cig, a gorffennwch gyda’r pupur coch a’r pak choi. Yna ysgeintiwch ychydig o’r coriander a’r cnau daear, y tsili coch wedi’i sleisio a chroen a sudd y leim dros y cyfan.
Share This