facebook-pixel

Lwyn Cig Oen Cymru sbeislyd gyda dahl

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 1 ffiled llygad lwyn Cig Oen Cymru PGI
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Talp bychan o fenyn
  • ½ llwy de hadau coriander wedi eu malu
  • ½ llwy de hadau ffenigl
  • ½ llwy de pupur du wedi ei falu’n fras
  • Pinsiad o halen

Ar gyfer y dahl:

  • 400g corbys coch, wedi eu rinsio
  • 2 lwy de tyrmerig
  • 25g menyn
  • 2 lwy fwrdd hadau cwmin
  • ½ llwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn bach, wedi ei dorri’n fân
  • 2 ewin garlleg, wedi eu torri’n fân
  • 1 tsili gwyrdd, wedi ei dorri’n fân
  • 1 llwy de garam masala

I weini:

  • Carton bychan o iogwrt naturiol
  • ½ llwy de tyrmerig
  • Llond llaw o goriander ffres, wedi ei dorri
  • Chapatis

Dull

  1. Cymysgwch yr hadau a’r pupur du a’u taenu ar blat. Rholiwch y lwyn cig oen yn y sbeisys a’i adael i sefyll wrth i chi wneud y dahl.
  2. Rhowch y corbys mewn sosban, eu gorchuddio â dŵr (tua 4cm uwchben y corbys), eu berwi a mudferwi’n ysgafn. Ychwanegwch y tyrmerig a’r menyn, eu cymysgu, a’u gorchuddio â chaead nes bod y corbys wedi meddalu.
  3. Tra bo’r corbys yn coginio, rhowch yr hadau cwmin mewn padell a’u ffrio’n sych am ychydig funudau. Tynnwch yr hadau o’r badell. Gan ddefnyddio’r un badell, ychwanegwch yr olew a ffrio’r winwnsyn, y garlleg a’r tsili yn ysgafn am ychydig funudau, cyn ychwanegu’r hadau cwmin a’r garam masala. Yna cymysgwch i fewn i’r gymysgfa corbys.
  4. Mewn padell arall, cynheswch lond llwy fwrdd o olew, a phan fo’n boeth, ychwanegwch y cig oen a’i serio ar bob ochr, gan wneud yn siŵr nad ydych chi’n llosgi’r sbeisys. Ar ôl serio, ychwanegwch y menyn a pharhau i goginio, gan arllwys y menyn wedi ei doddi fesul llwyaid dros y cig oen. Coginiwch yn ofalus am 8 munud arall neu ei roi mewn tun rhostio bychan mewn ffwrn poeth am 8 munud.
  5. Gadewch y cig oen i orffwys am o leiaf 5 munud cyn ei dorri’n sleisys, a rhoi pinsiad o halen drosto.
  6. I weini, cynheswch y chapatis a chymysgwch y tyrmerig i mewn i’r iogwrt. Rhowch y dahl i mewn i 2 bowlen a rhoi’r sleisys cig oen a llond llwy o’r iogwrt ar ei ben.
Share This