facebook-pixel

Sglodion brisged Cig Eidion Cymru llawn dop

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 100g sbarion brisged Cig Eidion Cymru PGI wedi ei rwygo
  • 1 bag o sglodion â chroen, wedi rhewi
  • ½ llwy de pupur cayenne neu sesnin sglodion
  • 4 shibwnsyn, wedi eu torri’n fân
  • 150g caws wedi ei ratio (Cheddar neu mozzarella neu gymysgedd o’r ddau)
  • Saws barbeciw neu saws tebyg
  • Cennin syfi, wedi eu torri’n fân

Dull

  1. Taenwch y sglodion allan ar hambwrdd pobi mawr, ysgeintiwch y sbeis neu’r sesnin drostyn nhw a’u coginio yn ôl cyfarwyddiadau’r pecyn tan eu bod yn grimp ac yn euraidd.
  2. Tynnwch y sglodion allan o’r ffwrn a rhoi’r brisged, y caws wedi ei ratio a hanner y shibwns drostyn nhw. Rhowch nhw’n ôl yn y ffwrn am ryw 5 munud tan fod y caws wedi toddi a’r cig eidion yn boeth.
  3. Rhowch weddill y shibwns ar ben y cyfan, cyn diferu’r saws ac ysgeintio’r cennin syfi drosto.
  4. Gweinwch gyda salad gwyrdd ffres.

Awgrym: Dyma ffordd wych o ddefnyddio sbarion brisged wedi ei goginio.

Share This