facebook-pixel

Siancen Cig Oen Cymru gyda Ras el Hanout, salad couscous cynnes, pomgranad a iogwrt mintys gan Ludo Dieumegard

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 5 awr 30 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 siancen Cig Oen Cymru PGI
  • 120g couscous i bob person
  • Cymysgedd Ras el Hanout
  • 1 pupur coch
  • 1 courgette
  • 1 winwnsyn
  • 3 winwnsyn bach
  • 1 pomgranad
  • 5 llwy fwrdd iogwrt naturiol
  • 1 llwy de saws mintys
  • 1 llwy de tyrmerig
  • 1 llwy fwrdd sudd lemon
  • 1 ciwb stoc cig oen
  • Llond llaw o goriander
  • Llond llaw o fintys
  • Olew olewydd
  • Pupur a halen at eich dant

Dull

  1. Ychwanegu digon o bupur a halen a Ras el Hanout dros y siancen cig oen. Rhoi ychydig o olew mewn dysgl caserôl a serio’r cig ar bob ochr tan ei fod wedi brownio, yna ychwanegu cwpan o ddŵr, ei orchuddio gyda chlawr a’i roi yn y ffwrn am 5 awr ar 110°C / 90°C ffan / Nwy ¼.
  2. Ar ôl 4 awr, edrych ar y cig oen a rhoi ciwb stoc cig oen yn y suddion coginio – ei adael i goginio am yr awr olaf heb y clawr.
  3. Mewn powlen fawr, rhoi sudd lemon, olew olewydd a thyrmerig dros y couscous. Ychwanegu dŵr berw at lefel y couscous, ei orchuddio gyda ffilm cling a’i roi naill ochr am ryw 5 munud tan i’r dŵr gael ei amsugno, yna ei gymysgu gyda fforc.
  4. Torri’r pupur, winwnsyn a’r courgette i mewn i giwbiau 1cm a’u ffrio tan eu bod wedi eu coginio a bod lliw da arnyn nhw. Eu hychwanegu at y couscous a chymysgu’n dda.
  5. Torri’r winwns bach, coriander a mintys. Cymysgu’r iogwrt naturiol a’r saws mintys gyda’i gilydd mewn powlen fach.
  6. I weini, rhoi’r couscous ar ochr y plat a’r siancen cig oen wrth ei ymyl. Sgleinio’r siancen gyda’r suddion coginio cyn ychwanegu’r perlysiau a’r hadau pomgranad, a’r iogwrt mintys.
Share This