facebook-pixel

Pryd popty golwython Cig Oen Cymru wedi’u carameleiddio a llysiau rhost

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

Ar gyfer y pryd popty:

  • 4-6 golwyth lwyn Cig Oen Cymru PGI (neu ffolennau unigol)
  • 2 bwnsiad o domatos ar y winwydden
  • 1 bwnsiad o frocoli ifanc
  • 3 winwnsyn coch, wedi’u plicio a’u torri’n dalpiau
  • Llond llaw o radisys, wedi’u haneru
  • 1 bylb garlleg, wedi’u haneru
  • Sprigau o deim ffres

Ar gyfer y marinâd:

  • 3 llwy fwrdd saws Worcestershire
  • 2 lwy fwrdd saws soi â llai o halen
  • 2 lwy fwrdd finegr balsamig
  • 2 lwy fwrdd saws coch
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown tywyll
  • ½ llwy de haenau tsili
  • 1 llwy de perlysiau ffres sych
  • ¼ llwy de pupur du
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd

Dull

  1. Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C Ffan / Nwy 6.
  2. Mewn powlen fawr, chwisgiwch holl gynhwysion y marinâd gyda’i gilydd ac ychwanegwch y golwython.
  3. Cymysgwch i sicrhau bod y golwython wedi’u gorchuddio yn y marinâd. Gadewch am 30 munud, os yn bosibl.
  4. Rhowch y golwython a’r llysiau mewn hambwrdd pobi, ychwanegwch y garlleg a’r teim a’u brwsio gydag ychydig o olew neu’r marinâd.
  5. Rhowch nhw yn y popty a’u coginio am tua 20 – 25 munud nes bod y golwython wedi coginio at eich dant (os ydych yn eu coginio’n hirach, tynnwch y brocoli a’r tomatos allan).
  6. Awgrym ar gyfer gweini: tatws wedi’u berwi neu reis grawn cyflawn.
Share This