- Cynheswch y ffwrn i 190°C / 170°C ffan / Nwy 5.
- Gan ddefnyddio cyllell finiog, crafwch batrwm siâp diemwnt ar y braster ar ben y clorennau. Rhwbiwch y past harissa i mewn i’r braster a dros y cig i gyd.
- Mewn powlen fawr, cymysgwch y garlleg, y lemon, y tatws a’r pupur. Ychwanegwch yr olew a chymysgu i orchuddio’r holl lysiau.
- Rhowch y llysiau mewn hambwrdd popty dwfn, rhowch y darnau o gig oen ar eu pennau a rhoi’r cyfan yn y ffwrn am 30 munud. Os ydych chi’n hoffi eich cig oen yn binc, tynnwch allan o’r ffwrn ar ôl 30 munud a’i gadw’n gynnes.
- Ar ôl 30 munud, ychwanegwch y brocoli a’r tomatos a’u brwsio gyda’r suddion o’r hambwrdd. Gwasgwch y talpiau o lemon dros y llysiau a rhoi’r cyfan yn ôl yn y ffwrn am 20 munud.
- Gorffwyswch y cig am 5 munud cyn ei sleisio.
- Gweinwch gyda bara â hadau i amsugno’r suddion blasus.
Clorennau bach Cig Oen Cymru harissa wedi eu pobi mewn hambwrdd popty
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 50 mun
- Ar gyfer 5+

Bydd angen
- 4 – 5 darn cloren Cig Oen Cymru PGI unigol (tua 180g yr un)
- 4 llwy fwrdd (jar bychan) past harissa
- 1 llwy fwrdd olew
- 6 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u haneru
- 2 lemon, wedi eu torri’n dalpiau
- 350g tatws bychain, wedi eu haneru os ydyn nhw’n fawr
- 1 winwnsyn coch, wedi ei blicio a’i dorri’n dalpiau
- 1 winwnsyn, wedi ei blicio a’i dorri’n dalpiau
- 1 pupur coch, wedi ei dorri’n giwbiau mawr
- 1 pecyn o frocoli tenau
- 300g tomatos bychain ar y winwydden
I weini
- Dail basil
- Bara â hadau