facebook-pixel

Siancod Cig Oen Cymru wedi eu coginio’n araf gyda rogan josh corbys a ragout tatws

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 4 siancen Cig Oen Cymru PGI
  • 1 llwy fwrdd olew
  • ½ x tun tomatos wedi eu torri
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n fras
  • 1 foronen, wedi ei thorri’n fras
  • 1 ddeilen fae
  • Pupur a halen
  • 1 llwy de hadau cwmin
  • 1 llwy de hadau coriander, wedi eu malu
  • 1 ffon sinamon
  • Dŵr

Ar gyfer y ragout:

  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri
  • 1 foronen, wedi ei sleisio’n denau
  • 300g tatws bychain, wedi eu haneru os ydyn nhw’n fawr
  • 2 ewin garlleg, wedi eu torri’n fân
  • 300ml suddion a stoc wedi eu cadw wrth goginio’r siancod
  • 100g corbys coch sych, wedi eu rinsio a’u tocio
  • Halen, at eich dant
  • Tomatos wedi eu torri sy’n weddill yn y tun
  • ½ jar past cyri rogan josh
  • Basged fechan o domatos bychain neu domatos ar y winwydden
  • Tun 400g o ffacbys, wedi eu draenio a’u rinsio
  • Coriander ffres

Dull

I goginio’r siancod cig oen:

  1. Cynheswch y ffwrn i 160ºC / 140ºC ffan / Nwy 3.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a serio’r siancod cig oen drostynt tan eu bod wedi brownio, yna rhowch nhw mewn dysgl bopty ddofn.
  3. Gan ddefnyddio’r un badell, ffriwch y winwnsyn, y foronen, y ddeilen fae a’r sbeisys tan fod y cyfan yn frown.
  4. Ychwanegwch y gymysgedd winwns a moron at y siancod cig oen yn y ddysgl bopty, yna ychwanegwch y tomatos tun. Ychwanegwch ddigon o ddŵr i orchuddio hanner y siancod cig oen.
  5. Gorchuddiwch y cyfan gyda ffoil a’i goginio yn y ffwrn am 1 awr 30 munud – 2 awr neu tan fod y cig yn frau iawn.
  6. Tynnwch y siancod allan o’r stoc, eu gorchuddio a’u gadael i orffwys, gan gadw’r suddion a’r stoc o’r badell.

I wneud y ragout:

  1. Rhowch y corbys wedi eu rinsio a’r tatws mewn dŵr oer. Berwch y cyfan, a’i goginio am 15 munud neu tan ei fod ychydig yn feddal. Draeniwch.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell a ffrio’r winwnsyn, y garlleg a’r foronen. Pan maen nhw’n feddal, ychwanegwch y past rogan josh, gweddill y tomatos tun ac ychydig o’r hylif coginio i greu saws llyfn.
  3. Ychwanegwch y gymysgedd corbys a’r ffacbys a choginio am 10 munud arall, gan ychwanegu mwy o hylif os oes angen.
  4. Pum munud cyn gweini, ychwanegwch y tomatos bychain ac ychydig o goriander ffres.
  5. Rhowch y gymysgedd corbys ar blat fesul llwyaid a rhowch y siancod cig oen ar ei ben. Gweinwch y cyfan gyda bara naan cynnes.
Share This