facebook-pixel

Unigryw i Gymru…

Chw 14, 2020

Ers canrifoedd, mae ffermwyr da byw Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth greu a chynnal y tirweddau gwledig anhygoel o brydferth sydd mor agos at ein calonnau. Mae eu rheolaeth gynaliadwy wedi helpu creu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n ferw o fywyd gwyllt ac yn addas i ymwelwyr. Mae hefyd yn cynnal rhwydwaith o ardaloedd gwarchodedig sy’n cael eu rheoli’n ofalus gan bori cyfrifol.

Er bod effaith amaeth ar newid hinsawdd yn bwnc llosg ar hyn o bryd, mae’n bwysig cofio bod amrywiaethau enfawr yn effeithiau amgylcheddol gwahanol systemau ffermio ledled y byd, a bod Cymru’n arbennig o addas ar gyfer magu gwartheg a defaid.

Y Ffordd Gymreig

Mae canrifoedd o ddulliau traddodiadol magu anifeiliaid wedi cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, felly gallwch chi fod yn hyderus y gellir olrhain Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn llwyr a’u bod yn cael eu magu mewn cartrefi hapus, iach. Efallai bod ffermio wedi esblygu a datblygu dros y blynyddoedd, ond mae’r ffermwr a’r ci yn parhau i sefyll ochr yn ochr gyda’u preiddiau a’u gyrroedd.

Dyma dri o’r gwahaniaethau rhwng y ffordd Gymreig o amaethu a’r ffyrdd a ddefnyddir mewn rhannau eraill o’r byd…

  1. Mae’r mwyafrif (80%) o dir amaeth Cymru yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, felly magu gwartheg a defaid yw’r ffordd fwyaf effeithlon o droi tir ymylol i mewn i fwyd a phrotein o ansawdd uchel.
  2. Yn wahanol i rannau eraill o’r byd ble mae adnoddau dŵr yn brin neu ble y defnyddir tir pwysig i dyfu porthiant, nid yw’r Ffordd Gymreig o ffermio yn ddwys i raddau helaeth, a chaiff defaid a gwartheg eu magu ar ein hadnoddau naturiol o laswellt a dŵr glaw.
  3. Mae glaswelltir bryniau Cymru yn dal carbon o’r amgylchedd ac mae ffermwyr Cymru yn gwneud cyfraniad positif tuag at liniaru newid hinsawdd drwy reoli’r glaswelltir hwn drwy gyfuno arferion traddodiadol a dulliau arloesol.

Mae’n hollbwysig bod defnyddwyr yn ymwybodol o sut caiff eu bwyd ei gynhyrchu ac o ble y daw. Y gwir yw bod gan ffermio dwysedd isel defaid a gwartheg yng Nghymru stori wahanol iawn i’w hadrodd na’r systemau mewn rhai rhannau o’r byd, sy’n cael eu beirniadu’n deilwng am eu heffaith amgylcheddol.

Drwy gyfuno dulliau ffermio traddodiadol ac arloesol, sail ein system yw gwneud y gorau o’r hyn y mae gennyn ni lwyth ohono – glaswellt, dŵr glaw a llond gwlad o falchder.

Share This