facebook-pixel

Canon Cig Oen Cymru gyda swêds wedi’u malu gan Tom Simmons

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 2 canon Cig Oen Cymru PGI, gyda’r braster
  • 2 llwy fwrdd olew hadau rêp
  • 300g swêds/erfin/rwden/maip, wedi’u plicio a’u torri’n giwbiau mân
  • 50g menyn

Ar gyfer y pesto bresych:

  • 200g dail bresych savoy (y dail gwyrdd allanol)
  • 50g caws caled Eidalaidd, wedi’i ratio’n fân (fel PDO Pecorino Romano neu PDO Parmigiano-Reggiano)
  • 50g cnau pîn, wedi eu tostio’n ysgafn
  • ½ ewin garlleg
  • 200ml olew olewydd

Dull

  1. Rhowch y swêds mân mewn sosban gyda’r menyn. Gorchuddiwch y swêds â dŵr oer ac ychwanegwch 1 llwy de o halen. Coginiwch dros wres uchel. Bydd angen i chi ychwanegu at y dŵr wrth iddo goginio. Unwaith y bydd y swêds wedi’u coginio’n llwyr (meddal iawn), cadwch y sosban ar wres uchel a chaniatáu i’r holl ddŵr anweddu. Bydd angen i chi barhau i droi’r swêds er mwyn eu hatal rhag llosgi. Unwaith i’r holl ddŵr anweddu, bydd swêds wedi’u malu â menyn gennych chi. Gorffennwch gyda phupur ffres. Rhowch o’r neilltu a’u hailgynhesu mewn sosban unwaith y bydd y cig oen wedi’i goginio.
  2. Ar gyfer y pesto bresych, tynnwch y wythïen allan o’r dail bresych allanol a’u rhoi mewn sosban o ddŵr berwedig am 2 funud. Tynnwch y dail o’r dŵr yn ofalus a’u rhoi mewn powlen o ddŵr rhew. Unwaith y bydd y dail yn oer, gwasgwch gymaint o ddŵr allan ohonyn nhw â phosibl. Torrwch y dail yn fras a’u rhoi mewn cymysgydd gyda holl gynhwysion eraill y pesto. Cymysgwch nes ei fod yn llyfn a’i sesno â halen at eich dant.
  3. I goginio’r cig oen, rhowch badell ffrio dros wres canolig ac ychwanegwch 2 lwy fwrdd o olew hadau rêp.
  4. Ychwanegwch halen a phupur at y cig oen a’i roi (gydag ochr y braster yn wynebu i lawr) yn y badell. Coginiwch am 2-3 munud nes bod y braster wedi lliwio (byddwch yn ofalus i beidio â llosgi’r braster gan y gall fynd yn chwerw).
  5. Trowch y cig oen drosodd a’i roi mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw ar 190°C / 170°C ffan / Nwy 5.
  6. Ar ôl 3 munud, trowch y cig oen yn ôl i ochr y braster a choginio am 4 munud arall.
  7. Tynnwch y cig oen allan o’r ffwrn a gadewch iddo orffwys am 5-10 munud yn rhywle cynnes.
  8. Torrwch y cig oen a’i weini ar ben y swêds wedi’u malu gyda thalp hael o’r pesto.
Share This