facebook-pixel

Caserol boch ychen Cig Eidion Cymru gan Tom Simmons

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 3 awr 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 2 foch ychen Cig Eidion Cymru PGI (tua 500g yr un), wedi’u torri’n ddarnau 1 fodfedd neu stecen stiwio wedi’i ddeisio
  • 150g o ddarnau mân o gig moch wedi’i fygu
  • 2 winwnsyn bach, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 4 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
  • 2 foronen ganolig, wedi’u torri’n giwbiau
  • 2 ffon seleri, wedi’u torri’n giwbiau
  • 50g past tomato
  • 350ml gwin coch
  • 1l stoc cyw iâr
  • 3 deilen bae
  • 5 sprigyn o deim, gyda’r dail wedi eu tynnu

Ar gyfer y twmplenni:

  • 100g siwed wedi’i rwygo
  • 200g blawd codi
  • 130ml dŵr oer
  • 20g taragon, wedi’i dorri
  • 40g cheddar Cymreig aeddfed, wedi’i ratio
  • ½ llwy de halen
  • ½ llwy de pupur du, wedi ei falu’n ffres

Dull

  1. Rhowch halen a phupur ar y bochau ychen a’u gorchuddio’n ysgafn mewn blawd plaen.
  2. Cynheswch ddysgl caserol wrthglud ar yr hob dros wres uchel. Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o fenyn hallt i’r ddysgl ynghyd ag ambell lwy fwrdd o olew hadau rêp.
  3. Unwaith y bydd y menyn yn dechrau ewynnu, ychwanegwch y darnau boch ychen i’r ddysgl yn ofalus a’u brownio ar y ddwy ochr (2 funud bob ochr), gan sicrhau nad ydych yn llosgi’r menyn! Unwaith y bydd y darnau boch ychen yn frown, tynnwch nhw allan a’u rhoi i un ochr am 10 munud.
  4. Ychwanegwch y stribedi o gig moch i’r ddysgl a’u troi nes eu bod yn euraid. Ychwanegwch y winwns mân i’r cig moch a throi’r gwres i lawr. Coginiwch nes bod y winwns yn feddal ac yn dryloyw.
  5. Unwaith y bydd y winwns wedi’u coginio, ychwanegwch y moron, y garlleg a’r seleri a’u coginio am 3-4 munud arall – gan eu troi’n achlysurol.
  6. Ychwanegwch y past tomato. Mae’n bwysig coginio’r past ychydig gan y gall wneud y caserol yn chwerw. Dylid gwneud hyn dros wres isel am 2 funud, gan ei droi’n gyson.
  7. Yn olaf, ychwanegwch y gwin coch, y dail bae a’r teim a chodi’r gwres. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei droi’n rheolaidd i’w atal rhag llosgi. Mae angen tewychu’r gwin o ddwy ran o dair ac ychwanegu’r stoc cyw iâr a’r bochau ychen wedi’u brownio.
  8. Gosodwch y caead ar y ddysgl a’i goginio ar wres isel iawn am 2 awr, gan ei droi bob hyn a hyn.
  9. Gwnewch y twmplenni tra bo’r caserol yn coginio. Cymysgwch y blawd, y taragon, y caws, a’r halen a phupur mewn powlen gymysgu. Ychwanegwch y crwst siwed ond peidiwch â’i dorri i fyny. Ychwanegwch ddigon o ddŵr oer (tua 130ml) i ffurfio toes ystwyth. Byddwch yn gwybod ei fod yn barod pan ddaw i ffwrdd o ochrau’r bowlen yn hawdd. Siapiwch y toes yn 12 pelen a’i roi o’r neilltu.
  10. Tynnwch y caead ar ôl 2 awr a rhowch y twmplenni ar ben y caserol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael centimetr neu ddau rhwng pob un.
  11. Gosodwch y caead ar y ddysgl a rhowch y caserol mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw ar 190°C / 170°C ffan / Nwy 5 am 25 munud arall (gallwch dynnu’r caead os yw’n well gennych gael crwst ar eich twmplenni).
  12. I weini, tynnwch y twmplenni allan yn ofalus a chymysgu llond llaw o bersli dail gwastad i mewn i’r caserol. Rhowch y caserol i mewn i bowlen gan ddefnyddio lletwad a gosod twmplenni ar y top.
Share This