Welsh Lamb Stir-Fry



Method

  1. Cynheswch y wok ac ychwanegu’r olew a’r stribedi cig oen. Coginiwch nhw am ryw 5 munud gan eu troi weithiau nes y byddant wedi brownio.
  2. Ychwanegwch y garlleg a’r sinsir, eu coginio am funud, yna ychwanegu’r llysiau i gyd a’u tro-ffrio am ryw 4 munud.
  3. Ychwanegwch y saws soi a’r saws hoisin a dal i dro-ffrio am ddwy funud arall.
  4. Rhowch y nŵdls i mewn, a’u troi’n dda nes bod y saws dros y nŵdls i gyd a’u bod yn boeth iawn. Taenwch y coriander mâl drosto a’i weini ar unwaith.

Recipe Information

Serves 4
Calories 297 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • Dwy stecen fawr (neu dair fach) o goes cig oen Cymru, wedi tynnu’r braster a’u torri’n stribedi main
  • 15ml olew
  • Darn 3cm o wraidd sinsir, wedi’i bilio a’i dorri’n ddarnau mân iawn
  • 2 ewin garlleg, wedi’u pilio a’u malu1 pupryn coch, wedi’i dorri’n stribedi
  • 4 shibwnsyn, wedi’u sleisio ar ongl100g blodigau brocoli
  • 100g madarch, wedi’u sleisio
  • 30ml saws soi
  • 45ml saws hoisin
  • Nŵdls maint canolig wedi’u coginio’n barod neu nŵdls sych wedi’u coginio fel y dywedir ar y pecyn (tua 75g yr un o nŵdls wedi’u coginio)

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 297 kcal
  • Egni 1246kJ
  • Braster 12.8g
  • Braster Dirlawn 4.4g
  • Halen 0.2g
  • Haearn 3.12mg
  • 5-y-dydd 1