facebook-pixel

Tsili Cig Eidion Cymru gyda thaten felys bob a salsa tomato

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 45 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g briwgig Cig Eidion Cymru PGI heb fawr o fraster
  • ½ llwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn, wedi’i blicio a’i dorri’n fras
  • 1 tsili coch, wedi’i sleisio ar ôl tynnu’r hadau (dewisol)
  • 2 ewin garlleg
  • Tun 400g tomatos wedi’u torri
  • Tun 400g ffa Ffrengig, wedi’u draenio a’u rinsio
  • 1 pupur coch, wedi’i dorri’n giwbiau mân ar ôl tynnu’r hadau
  • 1 pupur melyn, wedi’i dorri’n giwbiau mân ar ôl tynnu’r hadau
  • 150ml passata
  • 150ml stoc cig eidion
  • 2 lwy de powdr tsili mwyn (neu boeth)

Ar gyfer y salsa tomato:

  • 2 tomato ffres, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 1 pupur gwyrdd, wedi’i dorri’n giwbiau mân ar ôl tynnu’r hadau
  • 1 shibwnsyn, wedi’i sleisio
  • Llond llaw coriander, wedi’i dorri
  • Hufen sur â llai o fraster, i weini

Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio ac ychwanegu’r briwgig eidion, a’i goginio am ychydig funudau nes ei fod wedi brownio.
  2. Ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg a’r tsili, a’u ffrio am rai munudau nes bod y winwnsyn wedi meddalu.
  3. Ychwanegwch weddill y cynhwysion, cymysgwch yn dda a dewch â’r cyfan i’r berw. Gostyngwch y gwres a rhowch gaead ar y sosban.
  4. Coginiwch am tua 35 munud, nes ei fod yn eithaf trwchus.
  5. Tra bod y tsili yn coginio, paratowch y salsa trwy gymysgu’r holl gynhwysion gyda’i gilydd.
  6. Gweinwch y tsili gyda reis neu datws melys pob, salsa a llond llwy o hufen sur.
Share This