facebook-pixel

Hotpot golwython Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr 50 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 6-8 golwyth Cig Oen Cymru PGI
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • 2 foronen, wedi’u plicio a’u sleisio
  • 1 genhinen, wedi’i thocio a’i thorri’n fras
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri’n fras
  • 2 lwy fwrdd blawd plaen
  • 1l stoc cig oen
  • 1 llwy fwrdd saws Worcestershire
  • Sbrigiau o deim a rhosmari ffres
  • 100g menyn hallt, wedi’i doddi
  • 3 taten fawr flodiog, wedi’u plicio a’u torri’n gylchoedd 1cm
  • Pupur a halen

Dull

  1. Cynheswch y popty i 180˚C /160˚C ffan / Nwy 4.
  2. Rhowch halen a phupur ar y golwython cig oen. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio dros wres canolig a ffrio’r golwython cig oen am ychydig funudau ar bob ochr nes eu bod wedi brownio. Trosglwyddwch y golwython cig oen i ddysgl gaserol canolig.
  3. Ffriwch y foronen, y genhinen a’r winwnsyn yn yr un badell ffrio nes eu bod yn frown ysgafn ac wedi meddalu.
  4. Ychwanegwch y blawd a’i droi am ychydig funudau cyn ychwanegu’r stoc a saws Worcestershire. Cymysgwch yn dda, a dewch ag ef i’r berw i’w dewychu.
  5. Arllwyswch y cymysgedd dros y golwython, gan ychwanegu sbrigiau o rosmari a theim.
  6. Trefnwch y tafelli tatws ar ben y hotpot cig oen, gan orgyffwrdd â’r ymylon, yna brwsiwch â’r menyn wedi’i doddi.
  7. Pobwch yr hotpot yn y popty am tua 1½ awr nes bod y tatws wedi coginio ac yn grensiog.
Share This