- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio ac ychwanegu’r llysiau a’r garlleg, gan eu ffrio’n ysgafn am 10 munud hyd nes y byddant yn dechrau meddalu a newid eu lliw.
- Ychwanegwch y briwgig cig eidion a chodi’r gwres, gan ei goginio am 5 munud hyd nes y bydd wedi brownio.
- Ychwanegwch y passata, y stoc, y perlysiau a’r pupur du.
- Gorchuddiwch y cymysgedd a’i adael i fudferwi am 15 munud, yna ychwanegwch y siapiau pasta a’u coginio am tua 10 munud. Ychwanegwch ragor o stoc os bydd y cymysgedd yn rhy drwchus.
- Gweinwch gyda phinsiad o gaws a bara gwenith cyflawn trwchus.
Cawl pasta bolognese Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 35 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 250g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI isel mewn braster
- Olew ar gyfer ffrio
- 2 winwnsyn mawr, wedi’u torri’n fân
- 3 moronen fawr, wedi’u deisio’n fân
- 2 ffon o seleri, wedi’u deisio’n fân
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 500g passata
- 600ml stoc llysiau
- ½ llwy de o oregano sych neu berlysiau cymysg
- ½ llwy de o bupur du
- 100g o siapiau pasta bach, sych (ar gyfer y cawl)
- Gweinir gyda chaws parmesan neu gaws cheddar, wedi’i gratio
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1133 KJ
- Calorïau: 268 kcals
- Braster: 6.1 g
- Sy’n dirlenwi: 1.6 g
- Halen: 2.1 g
- Haearn: 3.2 mg
- Sinc: 3.5 mg
- Protein: 20 g
- Ffeibr: 7.5 g
- Carbohydradau: 37 g
- Sy’n siwgro: 16 g