facebook-pixel

Byrgyr caws campus Cig Eidion Cymru Ansh

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 1

Bydd angen

  • 210g briwgig palfais a brisged Cig Eidion Cymru PGI
  • 1 rôl fara (bynsen datws, brioche, challah)
  • 2 sleisen o gaws cheddar aeddfed
  • Mayonnaise
  • Sôs coch
  • Mwstard
  • Pinsiad o halen môr

Dull

  1. Cynheswch radell fflat neu badell sych dros wres uchel.
  2. Tynnwch y briwgig allan o’r oergell a’i ffurfio’n ddwy bêl 105g. (Os ydych yn defnyddio un pati mwy ar gyfer eich byrgyr, defnyddiwch tua 180-200g o friwgig yn lle).
  3. Rhannwch y rôl fara yn ei hanner. Rhowch y ddau hanner, gyda’r ochr wedi’i thorri am i lawr, ar y radell fflat poeth, neu farbeciw, neu badell sych, (neu o dan gril gyda’r ochrau wedi’u torri am i fyny) am ychydig funudau nes eu bod yn euraidd. Rhowch o’r neilltu.
  4. Rhowch y peli o friwgig ar y radell boeth a fflatio bob un i drwch o 5mm gyda sbatwla. Ysgeintiwch â halen môr.
  5. Coginiwch y patis am tua munud, munud a hanner, nes bod y cig yn dechrau brownio ar yr ymylon a’r braster yn dechrau byrlymu ar wyneb y cig.
  6. Trowch y patis a symudwch un ohonyn nhw i ran oerach y gril, neu os ydych chi’n coginio mewn padell, symudwch y pati i ail sosban dros wres oerach.
  7. Rhowch y dafell gyntaf o gaws ar ben y pati sydd bellach ar y gwres oerach, yna rhowch yr ail bati ar ei ben, yna’r ail dafell o gaws, ac yn olaf hanner uchaf y fynsen.
  8. Ychwanegwch ychydig o ddŵr ar y radell neu’r badell wrth ymyl y byrgyr. Gorchuddiwch y dŵr a’r byrgyr gyda cloche neu bowlen. Mae’r byrgyr yn barod pan fydd y caws wedi toddi a’r fynsen wedi glynu wrth y caws.
  9. Yn y cyfamser paratowch hanner arall y fynsen. Taenwch haenen o mayonnaise/sôs coch/mwstard ar y fynsen.
  10. Llithrwch y byrgyr ar y sbatwla a’i osod yn ofalus ar hanner gwaelod y fynsen.
Share This