- Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
- Rhowch y briwgig mewn powlen ac ychwanegwch y winwnsyn, y foronen a’r past cyri. Cymysgwch y cyfan ac, os oes angen, ychwanegwch ychydig o’r wy i lynu’r gymysgedd at ei gilydd.
- Siapiwch y gymysgedd cig eidion yn siapiau selsig/kofta (efallai y bydd hyn yn haws i blant os ydyn nhw’n gwlychu eu dwylo). Rhowch nhw ar hambwrdd pobi.
- I wneud y bysedd, gwasgwch almon neu lysieuyn i mewn i dop y kofta.
- I wneud y mymis, codwch y kofta yn eich llaw a defnyddio stribed o does neu grwst a’i lapio o gwmpas y kofta gan adael lle i ychwanegu’r llygaid.
- I ffurfio’r llygaid, gwasgwch ddarn bychan o mozzarella neu hanner olewydd i mewn i’r kofta.
- Coginiwch nhw am ryw 12-15 munud tan eu bod wedi eu coginio drwyddynt.
- Mae’r mymis kofta a’r bysedd gwrach yn wych i’w dipio mewn saws coch neu mayonnaise.
Kofta bach Cig Eidion Cymru a bysedd gwrach
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 450g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n fân, a’i ffrio’n ysgafn mewn ychydig o olew a’i oeri
- 1 foronen fawr, wedi ei phlicio a’i gratio
- 1 llwy fwrdd past cyri mwyn (neu saws coch)
- 1 wy bychan, wedi ei guro (i lynu os oes angen)
I addurno’r mymis
- Toes neu grwst pizza, wedi ei dorri’n stribedi
- Mozzarella neu olewydd
I addurno’r bysedd gwrach
- Cnau almon wedi eu blansio neu ddarnau bychain o lysiau e.e. pupurau wedi eu torri’n siâp ewinedd