facebook-pixel

Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i rhostio’n araf

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 5 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, gyda’r asgwrn (tua 2kg)
  • 2 winwnsyn coch, wedi’u torri’n dalpiau trwchus
  • 1 bylb garlleg, wedi’i haneru
  • 1 gwydraid o win gwyn
  • 200ml stoc llysiau
  • Sbrigiau o rosmari
  • Sbrigiau o deim

Ar gyfer y marinâd:

  • 4 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 lemon (croen a sudd ½ lemon – cadwch yr hanner arall i’w roi o gwmpas y cig oen yn y tun rhostio)
  • 1 leim (croen a sudd ½ leim – cadwch yr hanner arall i’w roi o gwmpas y cig oen yn y tun rhostio)
  • 3 sbrigyn o rosmari, wedi’u torri’n fras
  • 3 sbrigyn o deim, wedi’u torri’n fras
  • 1 llwy fwrdd mêl
  • Pupur a halen
  • 1 llwy fwrdd olew

Dull

  1. Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y marinâd gyda’i gilydd a’u brwsio dros yr ysgwydd. Gadewch iddo sefyll am awr (rhowch ef yn yr oergell os yw’n sefyll am fwy nag awr).
  2. Cynheswch y popty i 170˚C / 150˚C ffan / Nwy 3.
  3. Pan fydd yr ysgwydd cig oen ar dymheredd yr ystafell, paratowch y tun rhostio trwy roi’r winwns wedi’u sleisio yng ngwaelod y tun, rhowch yr ysgwydd ar eu pen, arllwyswch yr hylif i’r tun ac ychwanegwch y garlleg, yr haneri lemon a leim a’r perlysiau.
  4. Gorchuddiwch â ffoil a’i roi yn y popty am ryw 4-5 awr. Brasterwch yn achlysurol.
  5. Cynyddwch dymheredd y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6. Tynnwch y ffoil, brasteru a rhoi’r ysgwydd yn ôl yn y popty am ryw 20 munud nes bod ganddi groen creisionllyd hyfryd ac yn frown ysgafn drosti.
  6. Gadewch iddi orffwys am 30 munud cyn ei rhwygo ar wahân a’i gweini.
Share This