- Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban a choginiwch y winwns a’r ciwbiau cig oen.
- Ychwanegwch y reis risotto a throwch yn dda.
- Ychwanegwch y stoc, a dewch a’r cyfan i’r berw, ychwanegwch halen a phupur a’i fudferwi am tua 30 munud neu nes bod y reis wedi coginio a’r hylif i gyd wedi ei amsugno (gallwch ychwanegu ychydig mwy o stoc i gael y trwch y dymunwch).
- Yn ystod 5 munud olaf yr amser coginio, ychwanegwch y pys melys a’r pys wedi rhewi, cymysgwch gyda’i gilydd a choginio nes bod y pys melys yn dechrau meddalu.
- Ychwanegwch fwy o halen a phupur a gweinwch gyda llond llaw o ferwr a chaws Parmesan wedi ei ratio.
Risotto Cig Oen Cymru, berwr y dŵr a parmesan
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 30 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 225g stêcs coes Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster, wedi eu torri’n giwbiau bach
- 1 llwy de olew olewydd
- 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n fan
- 150g reis risotto (Arborio)
- 600ml stoc
- Pupur du
- 50g pys melys
- 50g pys wedi rhewi
- Dail berwr
- Caws parmesan
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 2458 KJ
- Calorïau: 584 kcals
- Braster: 20 g
- Sy’n dirlenwi: 6.5 g
- Halen: 1.6 g
- Haearn: 3 mg