facebook-pixel

Ramen hawdd Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 1 ffiled llygad y lwyn / canon Cig Oen Cymru PGI
  • Pupur a halen
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 llwy fwrdd olew sesame
  • 1 ciwb bychan o fenyn
  • Gwraidd sinsir (darn 3cm), wedi ei ratio
  • 3 ewin garlleg, wedi eu malu
  • ½ tsili coch, heb yr hadau ac wedi ei falu’n fân
  • 1l stoc cyw iâr
  • 2 lwy fwrdd saws soi â llai o halen
  • 1 llwy fwrdd mirin
  • ½ llwy de pupur du mâl
  • Pecyn 125g o nwdls ramen

I orffen

  • Detholiad o lysiau o’ch dewis wedi eu torri’n denau: dail pak choi ifanc, moron, mange-tout, spigoglys, shibwns, radish
  • 1 wy, wedi ei ferwi’n lled feddal
  • Hadau sesame, wedi eu tostio

Dull

  1. Cynheswch hanner yr olew a’r olew sesame mewn sosban. Ychwanegwch y garlleg, y sinsir a’r tsili a’u ffrio’n ysgafn am funud neu ddau. Ychwanegwch y saws soi, y mirin, y pupur du a’r stoc a’u berwi. Gorchuddiwch y cyfan gyda chaead a’i fudferwi’n ysgafn dros wres isel.
  2. Coginiwch y nwdls yn ôl cyfarwyddiadau’r pecyn. Draeniwch, rinsiwch y cyfan mewn dŵr oer ac ychwanegu ychydig o olew sesame.
  3. Sesnwch y cig oen gyda phupur du a chynhesu gweddill yr olew mewn padell ffrio fechan. Pan fo’n boeth, ychwanegwch y cig oen a’i serio ar bob ochr neu ei fod yn frown. Ychwanegwch y menyn, troi’r gwres i lawr ychydig ac ychwanegu’r menyn a’r suddion dros y cig oen fesul llwyaid, a’i goginio am 5 munud arall.
  4. Gorchuddiwch y cig oen gyda ffoil a’i adael i orffwys wrth i chi roi’r ramen at ei gilydd.
  5. Gan ddefnyddio lletwad, rhowch ychydig o’r potes i mewn i bowlen, ychwanegwch y llysiau a’r nwdls ac yna mwy o’r potes. Sleisiwch y cig oen yn denau, cyn ei ysgeintio gydag ychydig o halen. Rhowch y cig oen yn yr ddysgl.
  6. Ysgeintiwch hadau sesame ar ben y cyfan.

Awgrym: Dyma fersiwn hawdd a sydyn o ramen gyda lwyn Cig Oen Cymru blasus heb esgyrn sy’n toddi yn eich ceg. Gallwch chi hefyd wneud ramen wrth goginio ysgwydd Cig Oen Cymru yn araf a chreu potes sy’n llawn dop o flas.

Share This