facebook-pixel

Pad Thai Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 350g stêc ffolen Cig Eidion Cymru PGI, wedi’i sleisio’n denau (gallech ddefnyddio stêc bwtler)
  • 200g nwdls reis sych (nwdls fflat)
  • 3 llwy fwrdd olew
  • 3 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
  • 2 tsili poeth, wedi’u torri’n fân, neu ½ llwy de haenau tsili sych
  • 3 llwy fwrdd past tamarind (wedi’u cymysgu â 2 lwy fwrdd dŵr)
  • 2 lwy fwrdd siwgr brown meddal
  • 2 lwy fwrdd saws pysgod
  • 1 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
  • 150g egin ffa
  • 2 wy mawr, wedi’u curo
  • 3 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n fân
  • 1 leim

I addurno:

  • Clwstwr bach cennin syfi, wedi’u sleisio’n fân
  • Llond llaw coriander, wedi’u torri
  • 50g cnau mwnci rhost, wedi’u torri

Dull

  1. Mwydwch y nwdls mewn dŵr cynnes am tua 10 munud i’w meddalu. Draeniwch a gorchuddiwch gyda llwy de o’r olew.
  2. Gwnewch y saws: Rhowch 1 llwy fwrdd o’r olew mewn padell, ychwanegwch y garlleg a’r tsilis, a’u ffrio’n ysgafn am ychydig funudau i feddalu. Ychwanegwch y siwgr, cymysgedd tamarind, saws pysgod a saws soi a chymysgu’n dda dros wres isel nes bod y siwgr wedi toddi. Tynnwch o’r badell a’i gadw o’r neilltu.
  3. Cynheswch lwy fwrdd o olew mewn wok neu badell ffrio, ychwanegu’r cig eidion a’i ffrio dros wres uchel am ychydig funudau nes ei fod yn frown. Tynnwch allan o’r sosban yna ychwanegwch yr wy i’r badell a’i goginio nes ei fod yn caledu ychydig ac yna ei dorri i fyny gyda llwy. Tynnwch allan o’r badell.
  4. Ychwanegwch weddill yr olew i’r badell. Ychwanegwch yr egin ffa, nwdls a shibwns, a chan ddefnyddio dwy lwy, cymysgwch dros wres uchel nes ei fod yn chwilboeth. Ychwanegwch y saws a’i gymysgu’n dda.
  5. Dychwelwch y cig eidion a’r wy i’r badell a’i gymysgu am ychydig funudau.
  6. Gweinwch gyda’r perlysiau a’r cnau mwnci wedi’u torri’n fân dros y top a gwasgwch y leim drosto.
Share This