facebook-pixel

Lasagne Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 1 awr 5 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 450g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri
  • 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
  • 2 ffon seleri, wedi’u torri’n fân
  • 2 bupryn coch, wedi’u torri’n fân
  • 2 foronen, wedi’u gratio
  • 400g tomatos tun wedi’u torri’n ddarnau
  • 2 lwy fwrdd piwrî tomato
  • 150ml stoc cig eidion
  • 1 llwy de perlysiau cymysg
  • Pupur a halen

Ar gyfer y saws caws:

  • 50g menyn heb halen
  • 50g blawd plaen
  • 500ml llaeth cyflawn
  • 1 llwy de mwstard Dijon
  • 100g caws cheddar aeddfed o Gymru, wedi’i gratio
  • 12 dalen lasagne

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
  2. Sych-ffriwch y cig eidion nes ei fod yn frown. Ychwanegwch y winwnsyn, yr ewin garlleg a’r seleri, a’u ffrio nes eu bod wedi meddalu. Ychwanegwch weddill y cynhwysion a’u troi, ac yna gadewch y cymysgedd i fudferwi am 20 munud.
  3. I wneud y saws caws, toddwch y menyn mewn sosban, ychwanegwch y blawd, a throwch y cyfan yn dda am un munud. Ychwanegwch y llaeth yn araf a’i godi i’r berw. Ychwanegwch y mwstard a tynnwch y sosban oddi ar y gwres ac ychwanegwch 75g o’r caws.
  4. Mewn dysgl bopty, gosodwch y cymysgedd briwgig a’r dalennau lasagne mewn haenau bob yn ail i greu 3-4 haen. Rhowch y saws caws dros y cyfan, ac yna ysgeintiwch weddill y caws drosto.
  5. Rhowch y lasagne ar y silff ganol am 45 munud, a’i goginio nes y bydd y pasta’n feddal a’r caws yn frown euraidd.
Share This