facebook-pixel

Karahi Cig Oen Cymru charsi gan Cooking with Zainab

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 55 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1kg ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, wedi’i thorri’n ddarnau bach
  • 2 ben garlleg, wedi’u plicio
  • 125ml dŵr
  • 2 lwy fwrdd menyn (dewisol)
  • 500g tomatos, wedi’u chwarteru
  • 4-8 tsili gwyrdd
  • 1 llwy fwrdd halen
  • 1 llwy de powdr tsili coch
  • 1 llwy de grawn pupur du
  • ½ llwy de hadau cwmin
  • Clwstwr bach o goriander, wedi’i dorri

Dull

  1. Cynheswch wok sych, mawr ar wres canolig-uchel ac ychwanegwch y cig oen, gan ei droi’n gyson nes ei fod yn newid lliw ac yn rhyddhau rhywfaint o fraster – dylai hyn gymryd 5 munud.
  2. Cymysgwch yr ewinedd garlleg gyda 125ml o ddŵr. Ychwanegwch y cymysgedd garlleg yn raddol i’r cig oen, gan ei droi’n gyson a’i fudferwi am 10 munud.
  3. Ychwanegwch y menyn, y tomatos, y tsilis gwyrdd, y halen a’r powdr tsili. Os yw’r cig yn eithaf brasterog, peidiwch â defnyddio menyn!
  4. Gadewch iddo goginio ar wres canolig-uchel am 10 munud, gan ei droi’n achlysurol nes bod y tomatos yn torri i lawr, gan ddefnyddio’ch llwy i’w stwnsio.
  5. Gorchuddiwch a gadewch iddo goginio’n araf ar wres canolig-isel am 20-30 munud neu nes bod y cig oen wedi meddalu.
  6. Malwch y pupur du a’r hadau cwmin a’u hychwanegu at y cyri.
  7. Gorffennwch y cyfan gyda choriander ffres wedi’i dorri.
Share This