facebook-pixel

Coes Cig Oen Cymru gyda mintys

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 2 awr 10 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1 goes Cig Oen Cymru PGI
  • 2 lwy fwrdd o olew olewydd
  • 2 winwnsyn bach, wedi’u sleisio
  • Halen a phupur
  • 2 lond llaw fawr o ddail mintys ffres, wedi’u rhwygo’n fras
  • 6 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn
  • 2 lwy fwrdd o siwgr brown

Ar gyfer y saws mintys:

  • 1 llond llaw fawr o ddail mintys ffres, wedi’u torri’n fras
  • 6 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn
  • 1 llwy fwrdd o siwgr brown

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1330 KJ
  • Calorïau: 319 kcals
  • Braster: 17 g
  • Sy’n dirlenwi: 5.0 g
  • Halen: 0.7 g
  • Haearn: 3.4 mg

Dull

  1. Amser Coginio: wedi’i choginio’n ganolig – 25 munud am bob 450g/500g a 25 munud ychwanegol, neu wedi’i choginio’n dda – 30 munud am bob 450g/500g a 30 munud ychwanegol.
  2. Pwyswch y darn o gig oen a chyfrifwch yr amser coginio. Rhowch y cig oen ar fwrdd a gwnewch holltau yn y cig mewn sawl lle.
  3. Rhowch haenen o ffoil ar waelod tun rhostio mawr. Rhowch yr olew, winwns, halen a phupur, mintys, finegr a’r siwgr brown yn y badell rhostio, ychwanegwch y cig oen a’i rolio o gwmpas i orchuddio’r cig i gyd. Gwasgwch rywfaint o’r winwns, mintys a siwgr i mewn i rai o’r holltau − rhowch orchudd dros y cig a’i adael i farinadu am ddwy awr yn yr oergell.
  4. Tynnwch y cig o’r oergell, taenwch unrhyw suddion y marinâd drosto, crychwch y ffoil yn llac iawn o gwmpas gwaelod y cig a’i goginio am yr amser coginio a gyfrifwyd. Taenwch y suddion coginio dros y cig oen ychydig o weithiau wrth ei goginio.
  5. Cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y saws mintys a’u gadael i sefyll ar dymheredd ystafell am tua 20 munud er mwyn i’r blasau gyfuno. Tynnwch y cig oen o’r ffwrn a’i adael i orffwys am tua 15-20 munud cyn ei dorri.
Share This