facebook-pixel

Cawl Cig Oen Cymru traddodiadol

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 3 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 650g o ysgwydd neu wddf Cig Oen Cymru PGI, wedi’i ddeisio
  • Sbrigau teim ffres
  • Pupur a halen
  • 2 litr stoc llysiau
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 nionyn, wedi’i dorri’n fras
  • 3 cenhinen gyfan, wedi’u golchi, eu tocio a’u tafellu
  • 4 moronen fawr, wedi’u pilio a’u deisio
  • ½ erfinen / rwden neu 2 banasen, wedi’u pilio
  • 4 taten fawr neu 12 tatws bach, wedi’u sgwrio a’u deisio

Dull

  1. Mewn sosban fawr, ffriwch y cig oen nes ei fod yn frown.
  2. Ychwanegwch y nionyn a’r cennin, a’u coginio am 2 funud nes eu bod yn feddal.
  3. Ychwanegwch weddill y cynhwysion.
  4. Mudferwch y cyfan ar wres isel, gyda chaead ar y sosban, am tua 2 awr 30 munud i 3 awr, nes y bydd y cig oen yn dyner.
  5. Ar ei orau gyda bara crystiog a chaws cheddar aeddfed o Gymru.
Share This