facebook-pixel

Brest Cig Oen Cymru gydag orzo tsili ac ansiofi mewn un potyn gan Rosie Birkett

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 3 awr 25 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 1 brest Cig Oen Cymru PGI, heb esgyrn
  • 1 llwy de haenau tsili coch
  • 6 ansiofi, ac 1 llwy fwrdd o’r olew
  • 1 lemon, croen a sudd
  • 5 sbrigyn o deim, dim ond y dail
  • 2 ewin garlleg mawr
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i blicio a’i sleisio
  • 1 ffon seleri, wedi’i thorri’n fân
  • Pinsiad mawr o saffrwm
  • 100g tomatos bach
  • 100ml Marsala neu win melys arall e.e. Madeira
  • 800ml stoc cyw iâr
  • 100g pys wedi’u rhewi
  • 150g orzo
  • Llond llaw o fintys a phersli ffres

Dull

  1. Cynheswch y popty i 170˚C / 150˚C ffan / Nwy 3 .
  2. Mewn pestl a morter, malwch y garlleg, tsili, teim, croen y lemwn, hanner y sudd lemwn, pinsiad mawr o halen, yr ansiofis, ac 1 llwy fwrdd o olew ansiofis yn bast. Rhwbiwch y past dros ochr isaf y cig oen a’i rolio i fyny, yna clymwch yn dynn â chortyn.
  3. Browniwch y cig oen wedi’i rolio mewn ychydig o olew olewydd yn y pot rydych am ei rostio ynddo. Tynnwch y cig oen, ac yn yr un pot, ffriwch y winwnsyn, cennin, seleri, croen y lemwn a’r saffrwm. Ychwanegwch y gwin i sgleinio, ac yna’r stoc a’r tomatos.
  4. Dychwelwch y cig oen i’r potyn, gorchuddiwch â chaead a rhostio am 3 awr.
  5. Tynnwch y potyn o’r popty, ychwanegwch yr orzo, a’i droi i’w orchuddio â’r hylif, ac yna dychwelwch i’r popty am 10 munud.
  6. Yn y cyfamser, torrwch y perlysiau ffres a’u cymysgu i mewn i’r suddion gyda’r pys, gan arllwys gweddill y sudd lemwn drosto.
  7. Gorchuddiwch eto a rhostiwch am ychydig funudau pellach nes bod y pys wedi coginio.
  8. I weini, sleisiwch y cig oen yn 4 darn. Rhowch yr orzo a’r suddion mewn powlenni cynnes, a rhowch 2 ddarn o gig oen y person ar ei ben.
Share This