facebook-pixel

Asennau gludiog o Gig Oen Cymru

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 2 frest o Gig Oen Cymru PGI, ar yr asgwrn
  • 3 coeden anis
  • 300ml o stoc llysiau
  • Ar gyfer y sglein:
  • 2 llwy fwrdd o saws soi
  • 1 llwy de o bowdr pum sbeis Tsieineaidd
  • 1 llwy fwrdd o siwgr brown
  • 1 llwy fwrdd o fêl diferllyd
  • 1 llwy fwrdd o saws tsili melys
  • Hadau sesame a naddion tsili fel addurn (dewisol)

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Rhowch y brestiau mewn tun rhostio ac ychwanegu’r stoc a’r coed anis, cyn eu gorchuddio â ffoil a’u coginio am un awr a hanner, hyd nes y byddant yn gymharol dyner.
  3. Tynnwch y brestiau o’r popty a’u gadael i oeri rywfaint. Yna, torrwch rhwng pob asgwrn i greu asennau. Rhowch y cig ar hambwrdd pobi a’i roi yn ôl yn y popty, gan godi’r gwres i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6 a’i goginio am tua 15 munud hyd nes y bydd y braster yn grimp. Tynnwch y cig o’r popty a’i roi ar ddarn o bapur pobi, cyn ei roi yn ôl ar yr hambwrdd pobi.
  4. Gwnewch y sglein trwy gyfuno’r holl gynhwysion ynghyd. Taenwch y sglein dros yr asennau â brwsh, cyn eu rhoi yn ôl yn y popty am 10 munud, gan eu troi unwaith i’w brwsio â’r sglein.
  5. Gweinwch gyda phinsiad o hadau sesame a naddion tsili (dewisol).
Share This