facebook-pixel

Cig Oen Cymru crensiog gyda chrempogau

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • Cig Oen Cymru PGI dros ben wedi’i dynnu, neu ddarnau o gig oen rhost dros ben
  • Mymryn o olew
  • ½ llwy de o bowdr pum sbeis Tsieineaidd
  • Pecyn o grempogau Tsieineaidd
  • ½ jar o saws hoisin
  • ½ ciwcymbr, wedi’i dorri’n goesau matsys tenau
  • Swp o sibols, wedi’u torri’n dafellau tenau

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 716 KJ
  • Calorïau: 170 kcals
  • Braster: 7 g
  • Sy’n dirlenwi: 1.8 g
  • Halen: 3.7 g
  • Haearn: 1.75 mg
  • Sinc: 2.7 mg
  • Protein: 16.7 g
  • Ffeibr: 0.4 g
  • Carbohydradau: 11 g
  • Sy’n siwgro: 4.4 g

Dull

  1. I goginio’r cig oen crensiog – cynheswch yr olew mewn padell ffrio ac ychwanegu’r powdr pum sbeis a’i gymysgu’n dda. Yna, ychwanegwch y darnau o gig oen a throi’r cymysgedd yn ofalus am tua 10 munud er mwyn sicrhau bod y cig oen yn grensiog ac yn chwilboeth.
  2. Cynheswch y crempogau yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn.
  3. Taenwch ychydig o saws hoisin dros bob crempog a rhoi’r llysiau a’r cig oen poeth ar eu pennau. Rholiwch y cyfan i greu rholiau crempog.
Share This