facebook-pixel

Tsili melys Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 450g o stêc Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri yn stribedi
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 1 llwy fwrdd o olew sesame
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 3 llwy fwrdd saws tsili melys
  • 1 leim, sudd a’r croen
  • 100g pys sugar snap neu mangetout, neu’r ddau, wedi’u sleisio
  • 225g nwdls wedi’u coginio
  • 4 shibwns, wedi’i torri’n fân
  • 2 llwy fwrdd coriander ffres, wedi’i dorri

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1142 KJ
  • Calorïau: 273 kcals
  • Braster: 15 g
  • Sy’n dirlenwi: 4.5 g
  • Halen: 0.2 g
  • Haearn: 2.2 mg

Dull

  1. Cynheswch yr olewau mewn padell ffrio neu wok anlynol, ychwanegwch y stribedi o gig oen a’r garlleg. Coginiwch am 4-5 munud nes mae’r cig yn frown drosto ac wedi coginio drwyddo.
  2. Ychwanegwch y saws tsili melys a choginiwch am 1-2 funud.
  3. Ychwanegwch y croen a’r sudd leim, y pys sugar snap a/neu’r mange tout a chymysgwch.
  4. Yn olaf, ychwanegwch y nwdls a’r sibols, trowch y cyfan a gweinwch gyda choriander wedi’i ysgeintio am ei ben.
Share This