Wythnos Genedlaethol y Barbeciw (26 Mai – 1 Mehefin) yw’r amser perffaith i danio’r glo a mwynhau’r blasau myglyd, blasus o goginio yn yr awyr agored. Eleni, beth am fynd â’ch gêm barbeciw i’r lefel nesaf gyda blas naturiol blasus Cig Oen Cymru?
Wedi’i fagu yng nghefn gwlad wyrddlas Cymru gan ddefnyddio dulliau ffermio traddodiadol a chynaliadwy, mae Cig Oen Cymru yn llawn blas cyfoethog, nodedig, gan ei wneud yn ychwanegiad perffaith i’r barbeciw. P’un a ydych chi’n barbeciwio koftas cig oen neu goes gyfan, mae’r ryseitiau danteithiol yma yn sicr o wneud argraff yn eich sesiwn coginio nesaf.
Darganfyddwch y ryseitiau barbeciw gorau gyda Chig Oen Cymru
A ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol a wneith bodloni eich gwesteion? Yna beth am goginio koftas Harissa Cig Oen Cymru – opsiwn tanbaid ond llawn blas sy’n siŵr o’ch swyno. I’r rhai sy’n dyheu am flas o Fôr y Canoldir, yna cebab Cig Oen Cymru yw’r dewis perffaith, gan gynnig cymysgedd o gig suddlon, dyner a sbeisys bywiog. Neu, am farbeciw sy’n plesio’r dorf, beth am roi cynnig ar wneud Lolipops Cig Oen Cymru crensiog, sy’n sicr o fod yn llwyddiant ymhlith ffrindiau a theulu.
Felly, goleuwch y barbeciw, rhowch eich ffedog arno a choginiwch storm gyda’r ryseitiau danteithiol hyn gan ddefnyddio’r Cig Oen Cymreig gorau. .