facebook-pixel

Dathlu Cig Oen Cymru – y ffordd Eidalaidd!

Chw 19, 2025

Wedi’i eni a’i fagu yn Calabria, dechreuodd Francesco ei yrfa fwyd yn gynnar iawn pan fu’n gweithio yn gelateria ei ewythr o naw oed, ac ers hynny mae wedi gweithio mewn bwytai ledled y byd, gan gynnwys Rhufain, Bangkok a Llundain. Mae’n wyneb cyfarwydd ar y teledu trwy ei ymddangosiadau rheolaidd ar raglenni fel James Martin’s Saturday Kitchen, MasterChef, Hell’s Kitchen Italy, SnackMasters a CNN gyda Stanley Tucci.

Ers 2015 mae Francseco wedi bod yn gogydd-berchennog ar D&D Sartoria yn Mayfair ar Saville Row, ynghyd â’i fwytai eraill yn Llundain, Radici a Fiume. Mae hefyd wedi cyhoeddi llyfr coginio sy’n arbenigo mewn coginio o dde’r Eidal, Mezzogiorno gan Francesco Mazzei.

 

Beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig? 

I Francesco, Cig Oen Cymru yw’r dewis naturiol.

Rydw i wedi fy nghyfareddu gan Gig Oen Cymru, felly pan ges i’r cyfle i weld drosof fy hun sut mae ffermwyr Cymru yn gofalu am eu diadelloedd, beth mae’r ŵyn yn ei fwyta a ble maen nhw’n treulio’u diwrnod, mae wedi gwneud i mi ei werthfawrogi hyd yn oed yn fwy.

Rydw i wrth fy modd yn coginio gyda Chig Oen Cymru oherwydd y blas ac mae’n arbennig o frau. Mae’n dda gwybod bod cynnyrch o’r safon hwn ar garreg fy nrws, ac mae’n stori wych i’w hadrodd i’m cwsmeriaid a’m cogyddion pan fyddaf yn fy mwyty yn Llundain.

 

Prydau blasus Cig Oen Cymru Francesco Mazzei.

Darganfyddwch bedwar o brydau blasus Cig Oen Cymru Francesco, pob un wedi’i ysbrydoli gan ei dreftadaeth Eidalaidd.

Francesco Mazzei’s pan-fried Welsh Lamb involtiniInvoltini Cig Oen Cymru wedi’u ffrio gan Francesco Mazzei

Pryd syml ond trawiadol o sgalopau o ganon Cig Oen Cymru wedi’i rholio, wedi’i stwffio â llenwad pancetta, briwsion bara a pherlysiau, wedi’u gweini ar datws stwnsh ysgafn, a madarch picl ar eu pen.

 

 

Francesco Mazzei's pulled Welsh Lamb piadina mozzarellaPiadina Mozzarella Cig Oen Cymru wedi’i rwygo gan Francesco Mazzei

Bwyd stryd Eidalaidd clasurol gyda thro Cymreig. Ysgwydd Cig Oen Cymru, wedi’i choginio’n araf a’i gweini mewn bara croyw ‘piadina’ syml gyda saws tomato siarp a garllegog, ciwcymbr picl ffres a mozzarella hufennog. Pryd gwych i’w rannu gyda ffrindiau a theulu.

 

 

Francesco Mazzei’s braised Welsh Lamb shank risottoSiancen Cig Oen Cymru wedi’i brwysio gyda risotto Grana Padano gan Francesco Mazzei

Siancod Cig Oen Cymru wedi’u coginio’n araf mewn ‘arddull ossobuco’ ar gyfer cig tyner, sy’n toddi yn eich ceg. Wedi’i weini â risotto hufennog a’i orffen â gremolada siarp, mae’r pryd hwn yn wirioneddol wych.

 

 

Selsig Cig Oen Cymru gyda polenta a ffa cannellini Tysganaidd gan Francesco Mazzei

Pryd selsig a ffa i’w gofio. Selsig yn arddull Calabria wedi’u gwneud gyda briwgig Cig Oen Cymru, wedi’u gweini ar wely o polenta hufenog a ffa cannellini llawn perlysiau. Asiad gwych rhwng coginio Cymreig ac Eidalaidd.

 

 

 

Teimlo’n ysbrydoledig? Darganfyddwch lu o ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yma. 

Share This