facebook-pixel

Tikka masala Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 1 awr 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 600g o Gig Oen Cymru PGI, wedi’i ddeisio, gan dorri’r braster i ffwrdd (toriadau addas – yr ysgwydd, ffiledau’r gwddf, y goes neu’r ffolen)
  • Olew ar gyfer ffrio
  • 2 winwnsyn, wedi’u torri’n fras
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 2cm o wreiddyn sinsir, wedi’i gratio
  • 2 lwy fwrdd o garam masala
  • 1 llwy fwrdd o bowdr tsili mwyn
  • Pupur a halen
  • 300g o domatos tun
  • 3 llwy fwrdd o biwrî tomato
  • 75g o gnau coco hufennog
  • 150ml o stoc llysiau
  • ½ llwy de o siwgr

Dull

  1. I wneud y saws: arllwyswch yr olew i sosban a ffriwch y winwns, y garlleg a’r sinsir dros wres canolig hyd nes eu bod wedi’u brownio’n ysgafn.
  2. Ychwanegwch y sbeisys a’r pupur a halen a’u ffrio am rai munudau.
  3. Ychwanegwch weddill y cynhwysion a’u coginio am 5 munud hyd nes y byddant yn dechrau berwi.
  4. Os hoffech gael saws tikka massala llyfn, arllwyswch y saws i’r blendiwr a’i gymysgu am rai munudau. Rhowch y cymysgedd yn ôl yn y sosban.
  5. Mewn padell ffrio ar wahân, ffriwch y cig oen wedi’i ddeisio am rai munudau, hyd nes y bydd wedi brownio, ac yna ychwanegwch y saws.
  6. Gorchuddiwch y cig a’i goginio hyd nes y bydd yn dyner. Bydd yr amser yn dibynnu ar ba doriad y byddwch wedi’i ddefnyddio. Caniatewch rhwng 45 munud ac 1 awr ar gyfer coes / ffolen / gwddf, ac 1½ awr ar gyfer ysgwydd.
  7. Gweinwch gyda phinsiad o goriander wedi’i dorri, reis basmati neu fara naan.
Share This