facebook-pixel

Stroganoff Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o stêc Cig Eidion Cymru PGI – syrlwyn neu ffiled, wedi’i dorri’n stribedi tenau
  • Olew
  • 25g o fenyn (dewisol)
  • 100g o fadarch botwm, wedi’u sleisio
  • 1 pupur melyn, heb yr hadau ac wedi’ sleisio’n stribedi tenau
  • ½ llwy de o halen
  • 1 llwy de o bupur du bras
  • 1 nionyn, wedi’i sleisio’n denau
  • 3 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
  • Joch o win gwyn neu frandi (dewisol)
  • 300ml o stoc cig eidion
  • 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
  • 1 llwy de o baprica
  • 1 llwy fwrdd o fwstard Dijon
  • 2 lwy fwrdd orlawn o crème fraiche
  • Persli wedi’i dorri a reis gwyn a gwyllt wedi coginio i weini

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1293 KJ
  • Calorïau: 310 kcals
  • Braster: 18 g
  • Sy’n dirlenwi: 9.2 g
  • Halen: 2.7 g
  • Haearn: 3.0 mg
  • Sinc: 5.0 mg
  • Protein: 29.3 g
  • Ffeibr: 2.9 g
  • Carbohydradau: 8.2 g
  • Sy’n siwgro: 6.7 g

Dull

  1. Cynheswch ychydig o olew mewn padell a ffriwch y stribedi cig ar wres uchel am ychydig funudau i’w brownio, yna ychwanegwch joch o win gwyn neu frandi os dymunwch a choginiwch am funud arall. Tynnwch y cig o’r badell.
  2. Yn yr un badell, ychwanegwch ychydig o olew a menyn a ffriwch y nionyn, y garlleg, y madarch a’r pupur am ychydig funudau, yna ychwanegwch y mwstard, y pupur du, yr halen a’r paprica a throwch i gyfuno.
  3. Ychwanegwch y stoc a’r piwrî tomato a chodwch i’r berw.
  4. Ychwanegwch y cig i’r badell a’i gynhesu, yna ychwanegwch y crème fraiche. Codwch i’r berw a gweinwch gyda’r reis wedi coginio a llond llaw dda o bersli wedi’i dorri.
Share This