facebook-pixel

Pastai Cig Oen Cymru a rhosmari gyda chrwst perlysiau menynaidd

  • Amser paratoi 35 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 450g Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n giwbiau bach (ysgwydd heb esgyrn, ffiledau gwddf heb esgyrn neu goesau)
  • 2 lwy fwrdd blawd â sesnin
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 1 genhinen, wedi’i golchi a’i sleisio
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i sleisio
  • 2 goesyn seleri, wedi’u torri’n giwbiau bach
  • 400g tatws bach, wedi’u haneru
  • 1 llwy fwrdd rhosmari ffres, wedi’i dorri’n fras
  • 1 llwy fwrdd teim, wedi’i dorri’n fras
  • 1 llwy fwrdd purée tomato
  • 1 llwy fwrdd jeli cyrens cochion
  • 200ml gwin coch
  • 500ml stoc

Ar gyfer y crwst:

  • 300g blawd plaen
  • Pupur a halen
  • 150g menyn oer, wedi’i dorri’n giwbiau
  • 1 ŵy, wedi’i guro
  • Tua 2 lwy fwrdd dŵr oer
  • 1 llwy fwrdd rhosmari a theim, wedi’u torri’n fras
  • 1 ŵy, wedi’i guro (i sgleinio)

Dull

  1. Gorchuddiwch y cig oen yn y blawd wedi’i sesno.
  2. Cynheswch hanner yr olew mewn padell fawr neu ddysgl gaserol wrthfflam a ffrio’r cig oen nes fod y cyfan wedi brownio’n braf. Tynnwch y cig oen allan o’r badell.
  3. Defnyddiwch yr olew sy’n weddill ac ychwanegwch y genhinen, y winwnsyn a’r seleri a’u ffrio am ychydig funudau nes ei fod wedi’i liwio’n ysgafn. Rhowch y cig oen yn ôl i mewn yn y badell.
  4. Ychwanegwch y gwin a’i droi am 2 funud.
  5. Ychwanegwch weddill y cynhwysion: y tatws, perlysiau, stoc, a jeli cyrens cochion. Dewch â’r cyfan i’r berw a rhowch gaead ar y badell a’i fudferwi am ryw awr a hanner nes bod y cig oen yn frau. (Os ydych chi wedi defnyddio stêcs coesau wedi’u torri’n giwbiau bach, coginiwch am awr). Tewychwch y cyfan os oes angen.
  6. Tra bod y llenwad yn coginio, gwnewch y crwst.
  7. Rhowch y blawd mewn powlen (neu brosesydd bwyd), ychwanegwch bupur a halen. Ychwanegwch y menyn a’i gymysgu neu ei rwbio i mewn gyda’ch dwylo nes ei fod yn debyg i friwsion bara mân.
  8. Ychwanegwch y perlysiau wedi’u torri.
  9. Ychwanegwch yr ŵy wedi’i guro a digon o ddŵr yn raddol i droi’r crwst yn does meddal.
  10. Oerwch yn yr oergell nes bod angen.
  11. Pan fydd y llenwad yn barod, tynnwch y caead a gadewch iddo oeri ychydig cyn rhoi’r gymysgedd yn eich dysgl bastai gyda llwy.
  12. Rholiwch y crwst allan, brwsiwch ymyl y ddysgl gydag ŵy wedi’i guro neu ddŵr a thorri stribedi tenau (5cm o led) o’r crwst a’u defnyddio i’w gosod o amgylch ymyl y ddysgl bastai. Brwsiwch gydag ŵy ac yna rhowch y crwst wedi’i rolio dros ben y bastai’n ysgafn.
  13. Torrwch unrhyw grwst sy’n hongian dros yr ymyl. Gwasgwch i’w selio ac yna’i grimpio. Defnyddiwch unrhyw grwst sy’n weddill i addurno top y bastai.
  14. Brwsiwch gyda’r ŵy wedi’i guro, yna ei rhoi yn y popty a’i choginio am ryw 30 munud nes ei bod yn euraidd a’r llenwad yn boeth.
  15. Gweinwch gyda llysiau ychwanegol.
Share This